Ydych chi’n un am sgrolio’n hamddenol ar sgrin eich ffôn i gael eich dos o’r straeon diweddaraf? Ynteu un am gyrlio ar gadair foethus efo paned yn un llaw a phapur bro yn y llall?
Wel, does dim rhai i un fod ar draul y llall – defnyddiwch y papurau bro a’r gwefannau bro!
Bellach mae dros 30 o bapurau bro wedi manteisio ar wefan Bro360 i gyhoeddi rhifynnau digidol yn ystod y pandemig – gan ryddhau ymhell dros 200 rhifyn hyd yma. Ond er bod y cyfyngiadau’n llacio, mae sawl papur yn dal i weld gwerth cyhoeddi ar-lein i gyrraedd cynulleidfa ehangach.
Modd ‘prynu’ papur bro ar-lein
Mae rhai papurau wedi manteisio ar gyfleuster newydd sbon yr wythnos hon, sef gosod botwm ’tanysgrifio’ ar eu rhifynnau digidol, er mwyn gallu codi arian gan ddarllenwyr.
Papur Menai oedd un o’r cyntaf i dreialu’r dull newydd yma o godi arian, ac maen nhw’n credu bod hyn yn ddatblygiad amserol. Meddai Ifor Gruffydd, un o olygyddion Papur Menai:
“Rydan ni’n ymwybodol iawn fod mwy o bobl yn cyrchu newyddion ac yn darllen papurau newydd ar-lein y dyddiau yma, felly dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig manteisio ar y platfform gwych mae Bro360 yn ei gynnig er mwyn darparu ein papur bro drwy’r cyfrwng yma hefyd.
Mae’n her bob amser i bapurau bro ddenu darllenwyr newydd a fengach, ac eto, gobeithio y bydd y cyfrwng hwn yn apelio i’r to ifanc o ddarllenwyr. Y peth braf rwan ydy bod gan ddarllenwyr ddewis.”
Gallwch weld rhifyn mis Medi Papur Menai yma… dim ond i chi fuddsoddi £7.50 y flwyddyn i goffrau’r papur yn gyntaf!
Papurau a gwefannau bro yn cryfhau, nid cystadlu
Ar wahân i greu lle i bapurau bro dros Gymru gyfan gyhoeddi ar-lein, mae prif waith Bro360 yn ymwneud â helpu cymunedau i gynnal eu gwefannau bro eu hunain.
Erbyn hyn mae 8 gwefan fro’n rhan o’r rhwydwaith – 5 yn ardal Arfon a 3 yng Ngheredigion, ac yn union fel y papurau bro – pobol leol sy’n creu’r straeon.
Ond mae ’na wahaniaethau – ar wefan fro gallwch dorri newyddion ar-y-funud, neu rannu fideo o ddigwyddiad lleol. Does dim cyfyngiad lle am luniau lliw, a does dim rhaid cyhoeddi pob stori mewn mis gyda’i gilydd.
Mantais papur bro yw ei fod yn gofnod gwych o hanes bro, ac mae cael copi caled ar fwrdd y gegin yn siŵr o ddenu’r darllenwyr i gael cip trwy’r cyfan.
Mae defnyddio’r ddau gyfrwng – y papurau a’r gwefannau bro – yn eich galluogi i roi sylw da i straeon lleol, a does dim angen i’r cyfryngau gystadlu yn erbyn ei gilydd.
Dyma fideo fer sy’n dangos 5 ffordd y gall papurau bro a gwefannau bro gydweithio er mwyn cryfhau.
Oes gennych chi syniadau eraill am ffyrdd gwahanol o gyflwyno straeon lleol?