Nadolig Dafydd ap Gwilym

“Y Nadolig yw cyfnod gwaetha’r flwyddyn”

Gwasg Carreg Gwalch
gan Gwasg Carreg Gwalch

Mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi detholiad Nadoligaidd o Oes Eos, ffug-hunangofiant Dafydd ap Gwilym gan Daniel Davies!

Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw ym Mhen-bont Rhydybeddau, ger Aberystwyth, a hon yw ei ddilyniant i Ceiliog Dandi, rhan gyntaf hunangofiant ffuglennol Dafydd ap Gwilym a gyhoeddwyd yn 2020.

Dyma Dafydd ap Gwilym ei hun (!) yn trafod y gyfrol:

Fi, Dafydd ap Gwilym, yw bardd gorau ac enwocaf Cymru, ac rydych chi’n siŵr o fod yn awyddus iawn i wybod mwy amdanaf. Dyma i chi felly ail ran fy hunangofiant, lle byddaf yn rhannu mwy o’m cyfrinachau ynghylch sut y gwnes

  • oroesi pandemig mwyaf angheuol Ewrop
  • greu’r sioe gerdd gyntaf (ymddiheuriadau)
  • ddefnyddio Crair Sanctaidd i greu gwyrthiau di-ri
  • ysgrifennu fersiwn derfynol y Mabinogi
  • daro gŵydd yn anymwybodol