gan
Gwasg Carreg Gwalch
Mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi detholiad Nadoligaidd o Oes Eos, ffug-hunangofiant Dafydd ap Gwilym gan Daniel Davies!
Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw ym Mhen-bont Rhydybeddau, ger Aberystwyth, a hon yw ei ddilyniant i Ceiliog Dandi, rhan gyntaf hunangofiant ffuglennol Dafydd ap Gwilym a gyhoeddwyd yn 2020.
Dyma Dafydd ap Gwilym ei hun (!) yn trafod y gyfrol:
Fi, Dafydd ap Gwilym, yw bardd gorau ac enwocaf Cymru, ac rydych chi’n siŵr o fod yn awyddus iawn i wybod mwy amdanaf. Dyma i chi felly ail ran fy hunangofiant, lle byddaf yn rhannu mwy o’m cyfrinachau ynghylch sut y gwnes
- oroesi pandemig mwyaf angheuol Ewrop
- greu’r sioe gerdd gyntaf (ymddiheuriadau)
- ddefnyddio Crair Sanctaidd i greu gwyrthiau di-ri
- ysgrifennu fersiwn derfynol y Mabinogi
- daro gŵydd yn anymwybodol