Llyfryn newydd Bro Ni yn taro tant gydag arweinwyr cymunedau

Lansiad llyfryn gweithgareddau Bro360 nos Wener yn llwyddiant

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Aeth criw o arweinwyr ein cymunedau o Galeri, Caernarfon nos Wener wedi’u hysbrydoli i gynnal bwrlwm bro ac i rannu straeon lleol mewn ffordd ddifyr.

Nos Wener (19 Tachwedd 2021) lansiwyd llyfryn gweithgareddau newydd sbon gan Bro360.

Mae ‘Bro Ni’ yn llyfryn creadigol i oedolion a phobol ifanc, sy’n cymell syniadau ar gyfrannu at fwrlwm ein cymunedau. Mae hefyd yn cynnig ambell awgrym am ffyrdd o ddefnyddio cyfryngau digidol i rannu popeth sy’n digwydd yn ein milltir sgwâr.

Uchafbwynt y noson oedd sgwrs banel dan arweiniad yr actores a’r awdur Mari Emlyn, ar ‘sut gallwn ailgynnau bwrlwm bro?’

Bu’n holi tri pherson lleol – Dewi Jones, Sioned Young ac Anwen Roberts – am yr hyn sy’n eu hysbrydoli i roi egni mewn i’w cymuned. Rhannodd y tri sawl syniad a gair o gyngor defnyddiol.

Gan bod y gwefannau bro yn rhan annatod o fwrlwm bro, fe gafwyd ambell sesiwn yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i bobol leol rannu straeon lleol ar eu gwefan fro hefyd.

Cynhaliodd Dylan Iorwerth weithdy ar ‘sut i ddod yn ohebydd bro’, bu Guto Jones yn trafod syniadau am sut i greu cynnwys difyr o ddigwyddiadau lleol, a bu Caryl Owen yn rhannu esiamplau o sut gall cefnogwyr busnesau bach greu straeon difyr i hybu eu hoff fusnesau.

Mae llyfryn Bro Ni ar gael yn rhad ac am ddim o siopau llyfrau annibynnol yn Arfon a Cheredigion. Mae copïau hefyd wedi’u rhannu, trwy Mentrau Iaith Cymru, â phob papur bro yng Nghymru.

Os hoffech gael swp o lyfrynnau i’ch cymdeithas neu glwb, cysylltwch â lowrijones@golwg.cymru