Mae teulu bach o Gaerfyrddin wedi cael eu hysbrydoli i ddechrau traddodiad Nadolig newydd, a hynny ar ôl darllen y gyfrol Y Parsel Coch.
Mae’r gyfrol yn addasiad o’r fersiwn Almaeneg wreiddiol gan Linda Wolfsgruber a Gino Alberti, ac yn stori Nadoligaidd ei naws am roi a derbyn anrhegion. Yn wir, mae’n gyfrol gwerth chweil i’w chyflwyno yn anrheg a fydd yn aros yn hir yn y cof.
Gallwch wylio blas o’r gyfrol gan Wasg Carreg Gwalch.
Wedi darllen Y Parsel Coch, mae Alys ac Aaron o Gaerfyrddin wedi cael eu hysbrydoli i ddechrau traddodiad Nadolig newydd.
Mae pawb yn eu cartref yn cael hosan, a rhwng rŵan a dydd Nadolig, bydd pawb yn rhoi rhywbeth yn y ’sannau. Gall fod yn nodyn, yn llun, neu’n anrheg fach, unrhyw beth sydd yn rhoi gwên ar wyneb aelod o’u teulu.
Fel yn y gyfrol Y Parsel Coch, cyfrinach yw’r hyn sydd yn yr hosan, tan ddydd Nadolig!
A oes gan eich teulu chi draddodiadau Nadolig tebyg? Rhannwch nhw yn y sylwadau.
Pris Y Parsel Coch yw £7.95, a gallwch gael gafael ar gopi yn eich siop lyfrau Cymraeg annibynnol, ar wefan Gwasg Carreg Gwalch, neu ar wefan Gwales.