Lansio llyfryn newydd i ddathlu croesi 500 o gyfranogwyr

Bro360 yn cynnal digwyddiad yng Nghaernarfon i lansio llyfryn gweithgareddau Bro Ni

Lowri Jones
gan Lowri Jones
poster-lansiad-bro-ni

Bydd Bro360 yn lansio llyfryn gweithgareddau newydd o’r enw Bro Ni yng Nghaernarfon ar nos Wener, 19 Tachwedd.

Daw’r lansiad ar adeg arbennig iawn, wrth i’r gwefannau bro ddathlu bod dros 500 o bobol leol wedi cyhoeddi straeon amlgyfrwng arnynt.

Mae llyfryn Bro Ni ar gyfer oedolion a phobol ifanc sy’n falch o’u bro. Mae’n cynnig syniadau am ffyrdd o ailgynnau bwrlwm bro, gyda gweithgareddau creadigol yn ymwneud â chynnal digwyddiadau, siapio democratiaeth leol a hybu busnesau a chynnyrch lleol, a llawer mwy.

Yn ogystal â chymell syniadau creadigol ar gyfer cynnal cymuned, mae’r llyfryn yn cynnig awgrymiadau am ffyrdd o ddefnyddio’r cyfryngau digidol i rannu straeon lleol mewn ffordd ddifyr.

Cafodd y llyfryn ei greu gan Dylan Iorwerth, Lowri Jones a dylunio GraffEG. Mae Dylan o’r farn bod mwy i rannu straeon ar y gwefannau bro na difyrru’n unig:

“Mae gwefannau bro yn gwneud mwy nag adrodd am fywyd cymunedau – maen nhw’n ganolog i’r bywyd hwnnw. Mae’r straeon, y fideos a’r lluniau yn difyrru a rhannu gwybodaeth ond hefyd yn annog ac ysbrydoli. Maen nhw’n rhan o fwrlwm bro.”

Gweithgareddau’r diwrnod lansio

Bydd gweithdai creadigol ar greu cynnwys amlgyfrwng yn rhan o’r digwyddiad lansio. Un o’r rhain fydd sesiwn gan Dylan Iorwerth ar ‘sut i fod yn ohebydd bro’.

Uchafbwynt y lansiad fydd sgwrs banel gyda rhai o’r ‘bobol sy’n gwneud i bethau ddigwydd’ yn lleol – Anwen Roberts (trefnydd digwyddiadau megis Gŵyl Bro y Felinheli), Dewi Jones (aelod o sawl mudiad yng Nghaernarfon), a Sioned Young (perchennog busnes bach Mwydro). Mari Emlyn fydd yn holi’r criw.

Byddant yn trafod pwysigrwydd y pethau sydd eu hangen i gynnal cymunedau, yn enwedig yn ystod y cyfnod yma wrth ddod dros y pandemig.

Yn dilyn hynny bydd sesiynau syniadau bach ar gyfer:

  • pawb sydd am greu cynnwys difyr gan eu mudiad neu glwb
  • pawb sy’n trefnu digwyddiadau lleol
  • pawb sy’n awyddus i ddefnyddio’r cyfryngau i roi hwb i fusnesau bach

Gan ei bod yn #DiwrnodBusnesauBach ar 19 Tachwedd, Caryl Owen o busnesaubach.cymru fydd yn ymuno â ni yn y drydedd sesiwn, i rannu ei harbenigedd o greu cynnwys am fusnesau lleol.

Bydd cyfle i griwiau llywio a chrëwyr holl wefannau bro Arfon ddod ynghyd yn Bar Bach ar ddiwedd y nos, am sgwrs fach anffurfiol dros ddiod.

Mae croeso i bawb ymuno â Bro360 yn Galeri, Caernarfon nos Wener 19 Tachwedd o 6 o’r gloch. Nifer cyfyngedig fydd yn gallu ymuno yn y gweithdy gohebu gyda Dylan Iorwerth (5pm), gallwch gadw lle yma.