Sut mae hyrwyddo digwyddiad ar Calendr360?

Mae gosod digwyddiad lleol neu genedlaethol ar Calendr360 yn hawdd ac am ddim!

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Screenshot-2021-10-08-at-15.37.29

Ydych chi’n trefnu digwyddiad?

Wel, mae gan Golwg adnodd newydd sy’n lle i bawb hyrwyddo digwyddiadau lleol neu genedlaethol – Calendr360.

Bydd pob digwyddiad sy’n cael ei osod gennych chi’n ymddangos ar y calendr cenedlaethol, ac os ydych mewn ardal sydd â gwefan fro, bydd yn ymddangos yn y fan honno hefyd.

Beth amdani? Mae’r cyfarwyddiadau’n syml iawn:

  • Ymuno / Mewngofnodi ar calendr360.cymru
  • Creu > Digwyddiad
  • Llenwi’r bylchau gyda’r manylion pwysig
  • Bydd dim angen poster llawn testun, ond beth am ychwanegu llun deniadol, neu fideo?
  • Pwyso ‘barod i’w gyhoeddi’ a ‘cadw newidiadau’

* Wrth nodi lleoliad, bydd naill ai angen i chi ddewis lleoliad o’r ddewislen, neu ‘creu lleoliad newydd’. Nid adeiladu neuadd newydd ydych chi’n ei wneud fan hyn, ond rhoi gwybod i’r wefan ym mha bentref/dref y mae’r lleoliad. O wneud hyn, bydd eich digwyddiad yn ymddangos ar y wefan fro gywir.

A dyna ni. Bydd eich digwyddiad yn rhan o’r calendr digidol gorau yn y Gymraeg!