Yn fyw o Gŵyl Bro: dydd Sadwrn

Y diweddaraf o’r holl ddigwyddiadau lleol sy’n cael eu cynnal yn rhan o’r ŵyl dros y penwythnos

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dilynwch y blog trwy gydol y dydd i weld straeon lleol gan bobol leol o holl ddigwyddiadau Gŵyl Bro.

Ymunwch â’r wefan i gyfrannu’ch stori chi.

19:11

Mae gig Gŵyl Ogwen ar fin dechrau! Llwyth o dalent lleol yn barod i ganu yng nghlwb rygbi Bethesda, a dyma’r ‘set-up’!

18:52

Dyna fi am y diwrnod – bydd Gut yma wan i’ch tywys trwy’r gig.

18:36

gig-ogwen

Un digwyddiad sydd i fynd heno ma – gig yng Nghlwb Rygbi Bethesda, sydd yn cynnwys talent lleol megis Yazzy, Adam Boggs, Dafydd Hedd, Orinj a CAI. Bydd Guto Jones, ysgogydd Arfon Bro360 yma i’ch tywys chi drwy bethau o 7 ymlaen.

18:07

Ydy holl ddigwyddiadau heddiw wedi eich ysbrydoli i drefnu rhywbeth efallai? Dyma holi Cadeirydd Sioe Dyffryn Ogwen am ei brofiadau’n trefnu’r Sioe.

17:41

Digwyddiad arall o’r gogs oedd prynhawn cymdeithasol yng Ngerlan, hefo cerddoriaeth gan Dafydd Hedd, cacennau blasus a llwyth o siarad a chwerthin. 

Diolch i Daniela Schlick am drefnu, ac am y darn!

Gŵyl Bro – Llyfrgell Planhigion Gerlan

Daniela Schlick

Dathlu dod at ein gilydd eto a chreu lle da yn ein cymuned

17:35

Un o ddigwyddiadau’r gogledd heddiw oedd gig gyntaf Encôr, côr a sefydlwyd yn Rhagfyr 2020. 

Diolch i Ruth am greu darn am y perfformiad!

(Drafft)

Un o ddigwyddiadau’r gogledd heddiw oedd gig gyntaf Encôr, côr a sefydlwyd yn …

17:23

Da ni rhyw 10 munud i ffwrdd o gychwyn helfa drysor ar droed Gorsgoch! Os da chi’n edrych am rywbeth i swper, beth am gymryd rhan cyn aros mlaen am fwyd ar y diwedd?

17:07

Cofiwch fod hi’n bosib i chi ychwanegu i’r blog hefyd, drwy ddilyn y camau!

17:00

???

3ydd: ‘Taith Rhodri’ gan Manon Wyn James ar Caron360

2il: ‘Osian yn ennill cwpan ei dad-cu mewn cystadleuaeth golff’ gan Hannah James ar Clonc360

1af: ‘Merched Bethesda yn bencampwyr Gogledd Cymru’ gan Rhys Pritchard ar Ogwen360

Llongyfarchiadau!

16:36

Drwy fis Awst, cynhaliwyd cystadleuaeth cynnwys chwaraeon lleol – pwy bynnag oedd di creu’r darn mwyaf poblogaidd drwy’r mis bu’n fuddugol. Byddwn yn cyhoeddi’r enillydd am 5, fan hyn…