Swnio’n ddigwyddiad cyffrous iawn yn Llanddewi!
Gyda straeon am ddigwyddiadau lleol yn ymddangos ar y gwefannau bro, dyma’u casglu nhw ynghyd mewn un man.
Os fuoch chi mewn Gŵyl Bro, cofiwch gyhoeddi stori fach ar eich gwefan fro.
Sôn am BangorFelin360, fe rannodd un o’r trefnwyr ei theimladau â golwg360 cyn y penwythnos, ar ôl iddi fod trwy gyfnod anodd yn ystod Covid.
“Dw i’n gobeithio y gwneith hwn ddod â phobl allan, achos fydd lot o bobl wedi colli hyder a meddwl eu bod nhw ddim yn gallu cymdeithasu dim mwy,” medd Anwen Roberts.
Diolch Anwen am fwrw ati i drefnu digwyddiad gwerth chweil, ac am roi rheswm i bobol ddod ynghyd a mwynhau ar ôl amser mor hir.
Un o uchafbwyntiau’r penwythnos oedd Gŵyl Bro Y Felinheli – diwrnod llawn gweithgareddau i’r teulu a stondinau busnesau lleol.
Pwy wnaeth fwynhau’r sesiwn stori a symud gan Leisa Mererid? Ac oes na brifardd newydd wedi dysgu ei grefft yng ngweithdy barddoni Osian Owen?
Diolch o galon i un o griw BangorFelin360 – Brengain Glyn – am gynnal blog byw o’r holl weithgarwch. Mwynhewch bori trwy’r lluniau a’r fideos…
(Drafft)
Daeth rhyw 30 o bobol i daith gerdded hamddenol yn ardal Bow Street a Llandre nos Iau.
Dyma rai lluniau gan Anwen Pierce ar BroAber360, oedd yn falch o weld ei “milltir sgwâr ar ei gorau yn yr heulwen hwyr”
Darbi bêl-droed fawr fuodd mlaen ym Mangor nos Wener – o flaen tyrfa o dros 300.
Dyma stats y gêm gan Osian Glyn, ar BroWyddfa360 a BangorFelin360.
*NEWYDD*
Bore ma mae stafell ddirgel arbennig iawn yn agor yn Llanddewi Brefi…. rhowch groeso i JENGYD!
A fydd pawb yn llwyddo i ddianc o’r stafell yn y New Inn cyn i’r hanner awr ddod i ben?
Cadwch lygad ar flog byw Jengyd ar Caron360 i weld wy sy’n mynd yn sownd, a phwy sy’n heb law ar jengyd!
Mae sawl cymuned yng Ngheredigion wedi penderfynu mai helfa drysor yw’r ffordd orau o ddod â phobol ynghyd yn saff. Mae’n amlwg bod by Cardis yn joio whilo pethau gwerthfawr!
Felly, shwt a’th hi yn helfa Gorsgoch neithiwr?
Enfys sydd â stori fach ar Clonc360 –
Er bod tipyn o ddigwyddiadau’r ŵyl wedi bod ddoe, mae rhai mlaen heddiw hefyd.
Ewch draw os oes un yn eich patshyn chi!
o 10am: Taith dywys o Rachub i Moel Wnion ag yn ôl dros Gyrn, Llefn a Moel Faban. Trefnir gan Ar y Trywydd.
10.30: Oedfa Capel Shiloh Llanbed
Trwy’r dydd: Stafell JENGYD yn Llanddewi Brefi (mae’n ddawn dop, ond dilynwch y cyffro yn y blog byw)
4pm: Picnic pentre’ a gig gyda’r Smoking Guns yn Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd
Aeth hi’n giciau o’r smotyn i Nantlle Vale!
Begw Elain yw Swyddog Cyfryngau ei chlwb pêl-droed lleol, a dyma’r stori ddiweddaraf ganddi, am y gêm ddoe.
Cadwch lygad allan ar DyffrynNantlle360 yn ystod y dydd – bydd fideo uchafbwyntiau’r gêm allan heddiw!
Dathlu dod at ei gilydd eto a chreu lle da yn ein cymuned oedd diben y digwyddiad yn Gerlan pnawn ddoe.
Ac roedd Dani, un o’r trefnwyr, yn hapus gyda sut aeth hi – “dan ni wedi cael llawer o syniadau beth mae pobl Gerlan yn licio ei weld yn y lle o gwmpas y llyfrgell planhigion. Gwych dach chi!! Watsh ddis spês!”
Mwy yn y stori ar Ogwen360 –