Gyda straeon am ddigwyddiadau lleol yn ymddangos ar y gwefannau bro, dyma’u casglu nhw ynghyd mewn un man.
Os fuoch chi mewn Gŵyl Bro, cofiwch gyhoeddi stori fach ar eich gwefan fro.
Mae sawl cymuned yng Ngheredigion wedi penderfynu mai helfa drysor yw’r ffordd orau o ddod â phobol ynghyd yn saff. Mae’n amlwg bod by Cardis yn joio whilo pethau gwerthfawr!
Felly, shwt a’th hi yn helfa Gorsgoch neithiwr?
Enfys sydd â stori fach ar Clonc360 –
Er bod tipyn o ddigwyddiadau’r ŵyl wedi bod ddoe, mae rhai mlaen heddiw hefyd.
Ewch draw os oes un yn eich patshyn chi!
o 10am: Taith dywys o Rachub i Moel Wnion ag yn ôl dros Gyrn, Llefn a Moel Faban. Trefnir gan Ar y Trywydd.
10.30: Oedfa Capel Shiloh Llanbed
Trwy’r dydd: Stafell JENGYD yn Llanddewi Brefi (mae’n ddawn dop, ond dilynwch y cyffro yn y blog byw)
4pm: Picnic pentre’ a gig gyda’r Smoking Guns yn Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd
Aeth hi’n giciau o’r smotyn i Nantlle Vale!
Begw Elain yw Swyddog Cyfryngau ei chlwb pêl-droed lleol, a dyma’r stori ddiweddaraf ganddi, am y gêm ddoe.
Cadwch lygad allan ar DyffrynNantlle360 yn ystod y dydd – bydd fideo uchafbwyntiau’r gêm allan heddiw!
Dathlu dod at ei gilydd eto a chreu lle da yn ein cymuned oedd diben y digwyddiad yn Gerlan pnawn ddoe.
Ac roedd Dani, un o’r trefnwyr, yn hapus gyda sut aeth hi – “dan ni wedi cael llawer o syniadau beth mae pobl Gerlan yn licio ei weld yn y lle o gwmpas y llyfrgell planhigion. Gwych dach chi!! Watsh ddis spês!”
Mwy yn y stori ar Ogwen360 –