Mae’r Hennessys yn un o grwpiau cerddoriaeth werin draddodiadol mwyaf blaenllaw Cymru.
Ond pan ddaeth y grŵp at ei gilydd yng nghanol y chwedegau fe sylweddolon nhw’n fuan fod ganddyn nhw hunaniaeth gymhleth. Roedd y triawd wedi tybio eu bod nhw’n fand Gwyddelig oedd yn digwydd byw yng Nghaerdydd. Ond wedyn, ar ddiwedd sesiwn yn ninas Cork, gofynnodd rhywun wrthyn nhw pam nad oedden nhw’n canu’n Cymraeg?
Cyhoeddi llyfr Yr Hewl a’i Hwyl
Roedd hyn yn drobwynt yn hanes y band, hanes sy’n cael ei groniclo mewn llyfr newydd gan Dave Burns, Yr Hewl a’i Hwyl.
Yn dilyn hynny daeth yr Hennessys i sylw unigolion byd gwerin Cymru – yn eu plith Meredydd Evans, Rhydderch Jones a Ruth Price.
Mae Dave Burns, sydd wedi perfformio gyda grwpiau adnabyddus fel The Hennessys ac Ar Log, yn ymwybodol iawn o ddeuoliaeth ei hunaniaeth:
“Ces i fy ngeni a’m magu yn ardal Newtown, Caerdydd – ardal oedd yn cael ei hadnabod fel ‘Iwerddon Fach’”
Roedd ei deulu – fel llawer o deuluoedd Gwyddelig yr ardal honno – wedi ffoi rhag y Newyn Mawr yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd y teuluoedd hynny’n ganolog i hanes dociau Caerdydd.
Dave yn crynhoi’r hanes
“Aeth llafurwyr yn nociau Caerdydd ar streic. Ymateb Marcwis Bute oedd dod â dynion llwglyd, di-waith o Iwerddon i weithio yn lle’r streicwyr. Yn hytrach ma llenwi’r llongau glo â balast ar gyfer y fordaith yn ôl, llwythwyd llongau Bute gyda Gwyddelod.
“Roedd yn fwy hwylus ac yn rhatach, ac roedd y trosiant yn gyflymach. Roedd yr holl beth yn anghyfreithlon wrth gwrs, a chafodd ddirwy. Ei ddatrysiad oedd angori ei longau oddi ar arfordir Pen-y-bont ar Ogwr a gorfodi’r Gwyddelod i grwydro’r lan. Byddai’r llongau wedyn yn cyrraedd Casnewydd neu Gaerdydd, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. O ganlyniad, boddodd dros ddau gant o Wyddelod.
“Galwyd y llafurwyr hynny yn wetbacks.”
A dyna gefndir hunaniaeth gymhleth yr Hennessys.
Heb os, mae hanes y Cymry Gwyddelig yn stori sy’n absennol o’n llyfrau hanes.
Dechreuodd Dave Burns ddogfennu ei atgofion ar ddechrau pandemig Covid 19.
Er iddo orfod cysgodi yn ystod y pandemig oherwydd salwch gwaelodol a thriniaethau cemotherapi, dechreuodd Dave ddogfennu’r atgofion sy’n gymysgedd afieithus o’r hwyl a’r craic.
Cyhoeddir Yr Hewl a’i Hwyl gan Wasg Carreg Gwalch, a gallwch wylio sgwrs gyda golygydd y llyfr, y newyddiadurwr, cyflwynydd teledu a’r awdur toreithiog Lyn Ebenezer.