Mae cymaint o bobol yn gwneud y pethau bychain…

Mewn amser pan mae’n hawdd colli’r ffydd, mae gwneud y pethau bychain yn bwysicach nag erioed

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Mae hi bron yn amser i estyn am ein cennin, a bwyta llond ein boliau o gawl unwaith eto! Ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi, tybed ydych chi’n cofio rhai o eiriau pregeth olaf nawddsant Cymru?

“Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.”

Mewn amser pan mae’n hawdd colli’r ffydd, mae gwneud y pethau bychain yn teimlo’n bwysicach nag erioed.

Mae’r flwyddyn ddiwetha’ wedi amlygu sut mae gweithredoedd bychain yn gwneud gwahaniaeth mawr i ni fel unigolion, i’n cymunedau, a hyd yn oed ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol.

Pa bethau bychain mae cyfranogwyr gwefannau Bro360 wedi bod yn eu gwneud ers dechrau’r pandemig, tybed?

 

Helpu’r gymuned

Draw yn Nyffryn Ogwen, cafodd Ela a Caty lond bol ar weld baw ci ym mhobman. Aeth y ddwy chwaer ati i annog perchnogion i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid drwy osod poteli dal bagiau baw ci o amgylch y pentref.

Mae’r ddwy yn cadw llygad ar y dosbarthwyr ac yn eu hail-lenwi gyda bagiau baw ci pan fydd angen, ac yn falch o weld fod palmentydd Bethesda mewn gwell stad yn barod.

clawr

Cadw strydoedd Bethesda yn lân

Mae dwy chwaer wedi cael llond bol ar weld baw ci wedi ei adael ar y palmant ac wedi mynd ati i annog perchnogion i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid. 

 

Codi calonnau ?

Mae’r cyfnod clo hwn wedi bod yn gyfnod digon annifyr i lawer ohonom, a draw yn Rhostryfan bu Now, Lewis ac Enid yn ceisio codi calonnau’r gymuned. Bu’r tri’n gwerthu Siocled Stepan Drws o amgylch y pentref, gyda’r holl elw’n mynd tuag at Awyr Las (Ysbyty Gwynedd).

Roedd eu menter mor boblogaidd fel bod eu bocs cyntaf wedi gwerthu allan yn sydyn, a bu’n rhaid cael mwy o siocled i godi mwy o galonnau!

Siocled-Stepan-Drws-1

Siocled Stepan Drws

Siwan Thomas

Now, Lewis ac Enid yn codi calon trigolion yr ardal.

 

Pethau bach allai helpu…

Ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf aeth Manon Elin ati i gyflwyno ychydig o awgrymiadau am bethau bach allai helpu ein hiechyd meddwl. Mae’r rhestr yn amrywiol, ac yn ein hatgoffa i werthfawrogi’r pethau bychain.

Mae cyhoeddi cyngor ac awgrymiadau yn ffordd syml o rannu neges gadarnhaol a phwysig.

Pethau bach allai helpu…

Manon Elin

Dyma rai awgrymiadau am bethau bach allai helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn

 

Cyngor ar sut i wneud bywyd yn haws 

Bu Begw Elain o Ddyffryn Nantlle yn rhannu ychydig o gyngor ar sut i wneud gwaith ysgol adre. Roedd darllen ei darn yn siŵr o ddangos i ddisgyblion y Dyffryn, a thu hwnt, eu bod i gyd yn rhannu’r un heriau – ac roedd Begw yn cynnig atebion i rai o’u pryderon.

Os oes gennych chi gyngor i’w rannu, beth am wneud hynny ar eich gwefan fro? Gallwch rannu awgrymiadau am unrhyw beth – garddio, coginio, sut i ddygymod â bywyd dan glo, sut i gadw’r meddwl a’r corff yn iach… unrhyw beth!

Tips gweithio adref gan Begw Elain

Begw Elain

Helo Fy  enw i yw  Begw Elain a dwi’n bymtheg ac yn mlwyddyn deg yn Ysgol Brynrefail.    Dwi …

 

Codi arian 

Mae ymdrechion pobol ar lawr gwlad i godi arian at elusennau dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anhygoel. Wrth nodi ei ben-blwydd yn 91 oed aeth Rhythwyn Evans o Silian, Llanbed, ati i godi arian tuag at Apêl Hywel Dda Covid-19 trwy gerdded o amgylch ei gartref 91 gwaith mewn diwrnod.

Llwyddodd i godi dros £50,000 yn y diwedd, a denu JustGiving i drydar cyfarchion pen-blwydd iddo yn Gymraeg! 

Rhythwyn yn codi arian mawr a justgiving yn trydar yn Gymraeg

Dylan Lewis

Llwyddwyd i gerdded o gwmpas y tŷ 91 o weithiau ac yntau yn 91 oed.

 

Gwneud y pethau bychain dros y Gymraeg

Mae Dydd Miwsig Cymru yn gyfle i ymfalchïo yn allbwn cerddorol ein bröydd, a Chymru gyfan. I ddathlu diwrnod eleni aeth criw BroWyddfa360 ati i greu playlist o ganeuon Cymraeg gan artistiaid o’u hardal.

Wrth rannu’r playlist a chaneuon Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd y criw yn helpu i hybu’r Gymraeg a’n diwylliant.

Ydi Dyffryn Peris yn un o ardaloedd cerddorol pwysicaf Cymru?

Gethin Griffiths

Mae Dydd Miwsig Cymru yn gyfle i ymfalchio yn allbwn cerddorol ein hardal, ond ydym ni’n cydnabod hyn yn ddigonol? Gethin Griffiths o flog Son am Sin sy’n pwyso a mesur.

 

Helpu’r amgylchedd

Draw ym Mhenparcau bu criw o wirfoddolwyr yn casglu gwastraff o amgylch yr ardal ym mis Rhagfyr. Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan gangen Glannau Ystwyth o Blaid Cymru, yn dilyn sesiwn flaenorol lwyddiannus.

Mae eu hymdrechion yn golygu fod yr ardal yn daclusach, ac yn rhywbeth y gall ei efelychu ym mhob rhan o’r wlad.

Plaid Cymru Penparcau

Casglu gwastraff ym Mhenparcau

Mererid

Sesiwn casglu gwastraff ym Mhenparcau a drefnwyd gan Blaid Cymru

 

Arallgyfeirio, a helpu eraill

Gan fod cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi gorfodi cwmni coffi Poblado i addasu, llwyddodd y cwmni i gynnig cyfleoedd cymdeithasol i bobol yr ardal. Dros yr haf, fe wnaeth y cwmni ymestyn croeso i bawb ddod draw i ymuno â chlwb rhedeg ‘Plodwyr Poblado’, neu gymryd rhan mewn sesiynau ioga am ddim gyda Ceri Lloyd. 

Ers tro, roedd y cwmni yn awyddus i gynnig cyfleoedd i bobol gymdeithasu, a llwyddodd eu trefniadau i ffurfio cymuned fach o amgylch y cwmni.

Addasu i’r normal newydd yn Poblado Coffi.

Sion Hywyn Griffiths

Agor caffi awyr agored yn Poblado coffi, i ail-gysylltu hefo pawb ar ol y clo mawr.

 

Beth yw’r pethau bychain ’da chi’n eu gwneud?

Beth am fynd ati i rannu’r hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud i helpu’r Gymraeg, i helpu eraill, neu i helpu’r gymuned?

Gyda’i gilydd, mae’r pethau bychain yn troi’n bethau mawr… wir i chi! 

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)