Cymorth i ysgrifennu Cymraeg cywir ar eich gwefan

Ydych chi’n ysgrifennu yn y Gymraeg ar wefan neu flog WordPress? Dyma rywbeth allai fod o gymorth!

Un o amcanion cynllun Bro360 ydi hwyluso a hyrwyddo cyhoeddi ar-lein yn y Gymraeg, felly ry’n ni’n falch o allu rhannu teclyn fydd o ddefnydd i bawb sy’n defnyddio’r Gymraeg ar wefannau WordPress.

Aethon ni ati i ddatblygu gwirydd sillafu a gramadeg sy’n gweithio o fewn y wefan, fel bod modd cywiro camdeipio, camsillafu a chamgymeriadau eraill yn hawdd iawn wrth gyhoeddi stori. Mae’r gwirydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ar Golwg360 a’n holl wefannau bro.

Nawr mae modd i chi lwytho’r gwirydd ar eich blog neu wefan eich hun.

Mae’n defnyddio technoleg Cysill i adnabod camgymeriadau a chynnig awgrymiadau gramadeg, diolch i’r gwasanaeth Cysill Ar-lein a ddarperir gan Brifysgol Bangor.

Mae WordPress yn becyn blogio a llwyfan cyhoeddi poblogaidd, sy’n cael ei ddefnyddio gan nifer fawr o safleoedd ar draws y byd. Mae’n hawdd ei ddefnyddio, mae ar gael yn y Gymraeg, ac mae’n feddalwedd rhydd – sy’n golygu bod modd i bawb ei ddefnyddio am ddim, a chyfrannu gwelliannau os ydyn nhw’n dymuno. Am y rhesymau hyn, defnyddiwyd WordPress fel sylfaen i wefannau Bro360 a Golwg360.

Os ydych chi’n defnyddio WordPress i gyhoeddi’n Gymraeg, gallwch ychwanegu’r gwirydd drwy fynd at Ategion yn eich Bwrdd Rheoli, dewis Ychwanegu, a chwilio am “Gwirydd”. Neu gallwch ei lwytho o gronfa ategion swyddogol WordPress.

Mae Golwg yn falch o rannu’r adnodd hwn gyda’r gymuned gyhoeddi Cymraeg.

Croeso i chi gysylltu gydag adborth a gwelliannau posib (ond dydi hi ddim yn bosib i ni gynnig cymorth technegol manwl, yn anffodus).

Gwybodaeth i ddatblygwyr

Os hoffech chi bori’r cod a’i ailddefnyddio yn eich prosiectau eich hun, tu allan i arsefydliad WordPress, neu gyfrannau gwelliannau, mae gennym storfa god agored yn cynnwys engreifftiau a rhagor o wybodaeth.