Gweithdy darlledu o ddigwyddiad lleol

Cyfle i drafod syniadau gyda’r cynhyrchydd profiadol, Owain Llŷr

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae Bro360 yn cynnal gweithdy arbennig i unrhyw un sydd am ddarlledu a chreu cynnwys o’u digwyddiadau byw.

Bydd y gweithdy’n digwydd dros Zoom am 7pm nos Fercher 1 Medi, ac mae am ddim i bawb.

Owain Llŷr o gwmni Gweledigaeth fydd yn cynnal y sesiwn – mae ganddo lwythi o brofiad o greu fideos, cyfweld a chreu cynnwys byw, a bydd ar gael i rannu cynghorion yn ogystal ag ateb cwestiynau i’ch helpu chi i greu cynnwys gwahanol ac effeithiol o’ch digwyddiad – beth bynnag y bo.

Cofrestrwch heddiw.