Y gwefannau bro yn ymestyn ar draws Arfon

“Galw mawr” am blatfform digidol ar gyfer ardal Bangor

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Ar ôl casglu barn trigolion yr ardal, mae Bro360 yn ymestyn y gwefannau bro ar draws Arfon gyfan.

Bydd Bro360 yn helpu pobol Bangor i sefydlu gwefan a gwasanaeth digidol newydd i’r fro.

Ar ôl sefydlu saith gwefan lwyddiannus yn Arfon a Cheredigion dros y misoedd diwethaf, y bwriad nawr yw symud ymlaen i gyd-greu gwefan Bangor.

Wrth gasglu barn, daeth i’r amlwg bod galw am wasanaeth newydd ar-lein fydd yn crynhoi popeth sy’n dda am Fangor.

Mae’r bwrlwm yn amlwg i bawb sy’n byw ac yn gweithio yma, ac yn ôl yr ymchwil, mae galw mawr am galendr digidol, a phlatfform digidol i rannu hanesion y clybiau chwaraeon, newyddion Cymraeg, a thynnu sylw at fusnesau lleol.

Fel gyda gweddill y gwefannau bro, gwasanaeth ‘gan y bobol’ fydd hwn – trigolion Bangor fydd yn dweud wrthym sut wefan maen nhw am ei gweld, a nhw fydd yn creu’r cynnwys a hyrwyddo digwyddiadau.

Byddwn ni yn Bro360 ar gael i gynnig cymorth, cyngor, a hyfforddiant i sicrhau bod cymaint o bobol leol â phosib yn manteisio ar y cyfle i gael llais a hybu eu bro.

Bydd ‘Sesiwn Sefydlu Gwefan Fro Bangor’ – sesiwn gan Bro360 i sefydlu’r gwasanaeth digidol newydd – yn cael ei chynnal am 6:30pm nos Iau, 18 Mawrth, ar Zoom.

Cysylltwch gyda guto@bro360.cymru i dderbyn dolen y cyfarfod Zoom.