Sut mae gosod y papur bro ar-lein?

Dau gam i’w dilyn i gyhoeddi rhifyn diweddaraf eich papur bro ar-lein – diweddariad Medi 2021

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae modd i unrhyw bapur bro yng Nghymru ryddhau eich rhifynnau ar-lein, yn rhad ac am ddim.

Mae yna ddau brif opsiwn i’ch papur chi:

  1. Cyhoeddi PDF o’r rhifyn diweddaraf > a’i wneud ar gael am ddim i bawb
  2. Cyhoeddi PDF o’r rhifyn diweddaraf > a gosod botwm ’tanysgrifio’ er mwyn codi arian

Os ydych am ddechrau codi arian trwy osod botwm tanysgrifio, cysylltwch â ni i drafod y manylion.

Pa bynnag opsiwn rydych chi am ei dewis, y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw creu cyfrif ar wefan Bro360.cymru yn enw eich papur bro.

Yna, bydd modd i chi lwytho rhifynnau pryd bynnag byddwch chi’n dymuno, a bydd modd i chi rannu tudalen eich gwefan fro chi i bawb weld y rhifynnau i gyd gyda’i gilydd.

Bydd y dudalen hon yn eistedd wrth ochr tudalen yr holl bapurau bro eraill yng Nghymru sy’n manteisio ar y cyfle hefyd – bydd yn blatfform i ddarllen papurau Cymru gyfan.

 

CAM 1 (os nad ydych wedi cyhoeddi yma o’r blaen): CREU CYFRIF

  • Mynd i bro360.cymru a phwyso’r botwm ‘ymuno’ ar dop y sgrîn
    (ddim yn gweld y botwm? mae angen i chi ddefnyddio naill ai porwr Google Chrome, Firefox neu Safari)
  • Creu cyfrif yn enw eich papur bro
  • Cofio cadarnhau eich cyfri, trwy glicio ar linc yn yr ebost a anfonir atoch
  • Rhoi gwybod i Lowri (lowrijones@golwg.cymru) pan fyddwch wedi creu cyfrif, ac anfon logo eich papur (a llun da o’ch bro!) atom ar ebost

Os bydd rhywun gwahanol i chi am lanlwytho rhifyn yn y gorffennol, cofiwch basio’r manylion mewngofnodi mlaen atyn nhw.

 

CAM 1 (os ydych yn cyhoeddi rhifyn nesaf eich papur bro ar-lein): MEWNGOFNODI

  • Ewch i bro360.cymru a phwyso’r botwm mewngofnodi.
  • Defnyddiwch yr un ebost ag o’r blaen i fewngofnodi i gyfrif eich papur bro
  • Os ydych chi yn Arfon neu ogledd Ceredigion ac yn dymuno cyhoeddi’r rhifyn ar eich *gwefan fro* ac ar wefan Bro360, ewch i’ch gwefan fro i fewngofnodi. Defnyddiwch ebost cyfrif eich papur bro i fewngofnodi.

 

CAM 2: CREU ‘RHIFYN’ (lanlwytho PDF)

*sylwch bod y cyfarwyddiadau yma’n newydd ym Medi 2021

  • O dan y ddewislen Creu ar frig y safle, dewiswch yr opsiwn Rhifyn.
  • Rhowch enw’r rhifyn fel pennawd y stori (ee. “Medi 2021” – nid oes angen enw’r papur hefyd).
  • Rhowch grynodeb byr.
  • Pwyswch yr eicon ➕ a lanlwythwch y PDF o’ch cyfrifiadur
  • Rhowch fraslun o gynnwys y rhifyn yn y brif flwch, ee. rhestr bwled o’r brif benawdau. (Bydd hyn o help i bobl i ddod o hyd i’r rhifyn mewn peiriant chwilio, gan na fydd y peiriant chwilio yn gallu gweld tu fewn i’r PDF ei hun.)
  • Pwyswch ‘cyflwyno i’w gyhoeddi’ a ‘cadw newidiadau’

Bydd Lowri o Bro360 yn cael ebost i ddweud eich bod wedi cyflwyno rhifyn, ac yna ei gyhoeddi ar eich rhan.

A dyna ni! Gallwch weld rhifynnau ac erthyglau digidol papurau bro Cymru!

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)