Sut i gadw hanes lleol yn y cof

Ambell air o gyngor gan yr arbenigwyr ar sut i rannu hanesion lleol â chynulleidfa newydd

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson
jpegs-sesiwn-hanes-bro360-2-1
sut-mae-unrhyw-le-yng-nghymru

“Ble bynnag y’ch chi’n byw, fydd na rywbeth yna…”

Mewn sgwrs Zoom arbennig nos Fercher 27 Hydref, bu tri arbenigwr hanes yn annog pawb sydd â diddordeb yn y gorffennol i gyhoeddi straeon hanes lleol, er mwyn eu dathlu a chyrraedd cynulleidfa newydd.

Yr haneswyr gwadd yn sgwrs Cadw yn y Cof oedd John Dilwyn, Elin Tomos ac Ioan Lord, a Guto Jones o Bro360 fu’n eu holi am bwysigrwydd cofnodi a rhannu hanes lleol.

Pwysigrwydd hanes lleol

Bu’r panel yn trafod eu gyrfaoedd a’u profiadau amrywiol yn y maes, gan awgrymu bod deall hanes lleol yn hanfodol cyn y gallwn ddechrau deall hanes cenedl.

Meddai Elin Tomos, hanesydd o Nant Peris ac awdur y gyfrol Y Mae y Lle yn Iach:

“Dydy edrych ar hanes Cymru weithia ddim yn gwneud synnwyr, achos mi fysa profiad cymuned forwrol yn Llŷn yn hollol wahanol i Ferthyr Tydfil. Ti angen craffu ar yr ardaloedd ’ma er mwyn creu clytwaith o hanes Cymru.”

“Cychwyn wrth ein traed” oedd cyngor John Dilwyn, sy’n gweithio fel Swyddog Addysg i Archifdy Gwynedd yn ogystal â mwynhau cyflwyno hanesion bro i ddisgyblion ysgol a grwpiau o bob math.

Hanesydd ifanc o Gwm Rheidol yw Ioan Lord, sy’n astudio Hanes ym Mhrifysgol Bangor tra’n gweithio fel tywysydd yng ngweithfeydd mwyn ei filltir sgwâr. Mae’n ystyried gwaith haneswyr lleol yn hollbwysig:

“Mae lot o haneswyr ar lefel academaidd yn tueddu i edrych lawr ar haneswyr lleol. Ond mae ein hangen ni i wneud y gwaith ‘nitty gritty’ yn y lle cyntaf.”

Cyngor ar gyflwyno hanes

Yn ogystal â cheisio perswadio’r llu o bobol ddaeth i’r sgwrs i gofnodi hanes eu bro, bu Elin, Ioan a Dilwyn yn rhannu ambell air o gyngor am sut i dewis hanesyn sy’n haeddu sylw, ble i fynd i ymchwilio mwy, a ffyrdd creadigol o ddefnyddio’r cyfryngau digidol i rannu’r hanes.

  1. Defnyddio lluniau: “Mae pawb wrth eu bodd ’da lluniau” medd Ioan, ac roedd Dilwyn hefyd yn cadarnhau bod yr elfen weledol yn bwysig i bob oed.
  2. Stori bersonol: Wrth sôn am gyflwyno’r deunydd fel rhywbeth bywiog, soniodd Elin taw’r peth pwysicaf iddi hi ydy gwneud yn siŵr ei fod yn hanes personol. “Un peth dwi’n trio ’neud i roi ’chydig o liw i fy nghynnwys i ydi wastad rhoi enghraifft. Wastad name dropio.”
  3. Dilyn y calendr: Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth, cofiwch edrych ar y calendr. Dywedodd Elin “bob blwyddyn dwi’n meddwl am ‘wbath ar gyfer Sul y Cofio, neu ar gyfer ’Dolig… Os dio yn ein calendr ni, mae o wedi bod yng nghalendr y gorffennol hefyd.”

Gallwch wylio’r sgwrs fan hyn a chael eich hysbrydoli i gyhoeddi eich hanesion lleol chi…

 

Her i greu chwip o ddarn difyr ar hanes lleol

I annog pawb sy’n mwynhau hanes i rannu hanesion eu hardal nhw ar y gwefannau bro, mae Bro360 yn cynnal cystadleuaeth fach drwy fis Tachwedd. Ewch ati i gwblhau’r her, sef:

Cyhoeddi pwt o hanesyn am leoliad, person neu ddigwyddiad lleol, gan ddefnyddio unrhyw gyfrwng neu gyfryngau.

Rydym yn cynnig rhyw ddwsin o syniadau uchod, ond byddwch yn greadigol a defnyddiwch unrhyw gyfryngau o’ch dewis.

Mae modd i bawb sy’n byw yn Arfon a gogledd Ceredigion gyhoeddi’r straeon yma ar eich gwefan fro, ond os nad oes gennych wefan fro (eto) gallwch gyhoeddi stori ar wefan Bro360. Mae’n hawdd iawn a does dim angen gwybodaeth dechnolegol – mae’r llun uchod yn esbonio sut mae gwneud.

Y wobr

Bydd y stori hanes fwyaf poblogaidd yn ennill pecyn ‘gohebydd bro’ Bro360, sy’n cynnwys tripod (i’ch helpu i ffilmio gyda’r ffôn), meic bach (i’ch helpu i recordio darlithoedd neu gyflwyniadau), a thocyn llyfr gwerth £20 o’ch siop lyfrau leol (i’ch helpu gyda’r gwaith ymchwil!)