GIFs newydd Bro360!

Bro360 yn rhyddhau cyfres o GIFs Cymraeg

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson
B2CD7570-D811-40BB-94E9-83E033C8AFCB

GIF ta JIF? Sut da chi’n ei ddweud?

Pa bynnag ffordd o’i ynganu, gallwn ni i gyd gytuno bod y delweddau bach yn ffordd wych o atgyfnerthu neges ar-lein mewn ffordd ysgafn, hwyliog.

Felly mae Bro360 yn falch o gyhoeddi ein GIFs Cymraeg, sydd nawr ar gael ar Instagram a TikTok.

Yr oll sydd angen i chi wneud i’w defnyddio ydy mynd i greu stori ar Instagram, chwilio am y botwm GIF, a theipio mewn Bro360.

Fe welwch chi GIF eich gwefan fro, a lot o luniau bach eraill i dynnu sylw at bethau sy’n eich gwneud chi’n falch o’ch cymuned.

Diolch i Sioned Young o Gardiau Mwydro am greu!

Gyda llaw – Graphical Interface Format ydy o. ‘G’ galed.