Sut gall pobol ifanc adael eu marc ar yr etholiad?

Dwy o ohebwyr ifanc Bro360 yn rhan o sgwrs i drafod pobol ifanc, gohebu bro a democratiaeth

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Y-Sgwrs-Chwefror-16Urdd Gobaith Cymru

Nos Fawrth 16 Chwefror, bydd dwy o Ohebwyr Ifanc Bro360 yn rhan o sgwrs sy’n trafod pwysigrwydd y newyddion a newyddiaduraeth leol wrth i ni arwain at Etholiad y Senedd.

Bydd Nel Pennant Jones o fro Wyddfa a Megan Turner o Aberystwyth yn ymuno â Lowri Jones a Grug Muse mewn sgwrs fyw ar-lein a drefnir gan yr Urdd.

Democratiaeth fydd thema’r sgwrs wythnos nesa, wrth i bobol ifanc 16 ac 17 oed edrych at gael pleidleisio mewn etholiad cenedlaethol am y tro cyntaf.

Rhai o’r pynciau sydd yn siŵr o godi yw beth yw rôl y wasg a’r cyfryngau mewn democratiaeth? Pwy sy’n penderfynu beth sy’n ‘newyddion’? A sut gall pobol ifanc adael eu marc ar yr etholiad?

Yn ystod Cwrs Gohebwyr Ifanc Bro360 cyn y Nadolig, daeth hi’n amlwg bod popeth sy’n effiethio ar ein bywydau yn dechrau wrth ein traed – yn dechrau’n lleol. A dydy democratiaeth ddim yn eithriad.

Ymunwch â ni yn Y Sgwrs wythnos nesa trwy gofrestru o flaen llaw, i glywed chyfrannu eich syniadau chi am sut gall pobol ifanc ddefnyddio’r cyfryngau i annog gwleidyddion i wrando arnyn nhw.

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)