Mae etholiadau’r Senedd mlaen mewn deufis.
Ac am y tro cyntaf erioed, bydd pobol ifanc 16 ac 17 oed yn cael bwrw eu pleidlais yma yng Nghymru.
Mae’n gam i’w groesawu. Mae cynnwys pobol ifanc sy’n dal i dderbyn addysg yn siŵr o gymell mwy o gwestiynu ar bynciau mawr bywyd. Mae’n siŵr o annog mwy o bobol i deimlo eu bod yn gallu cael effaith ar benderfyniadau.
Mae Bro360 – sy’n gweithio’n benodol gyda chymunedau yn Arfon a Cheredigion – am wahodd pobol o bob oed i feddwl sut gallwn ni ddefnyddio’r cyfryngau i gael effaith ar ddemocratiaeth, gan ddechrau wrth ein traed.
Gwleidyddiaeth / gwleidyddiaeth
Mae Gwleidyddiaeth (gyda ‘G’ fawr) yn bwysig. Y Gwleidyddion sy’n creu’r polisïau ac yn ein cynrychioli ni, a’r sefydliadau, fel y Senedd ym Mae Caerdydd, sy’n rhoi’r llwyfan i’r drafodaeth a’r penderfyniadau.
Ond mae gwleidyddiaeth (gyda ‘g’ fach) yn bwysicach fyth. Mae hwnnw’n gyffrous!
Dyma’r sgwrs yn y siop am y newidiadau diweddaraf i’r rheolau slyri; y codi cwestiwn gyda ffrindiau wrth Zoomio am pryd a shwt ddylid codi cyfyngiadau Covid; a’r sgwrs dros y clawdd â’r cymydog am pwy sy’n gallu fforddio’r tai newydd ar y stad.
Mae gwleidyddiaeth o’n cwmpas mhob rhan o fywyd. Ac mae cyfnod y Covid wedi dangos un peth i ni, sef bod modd i ni effeithio ar y pethau sy’n digwydd yn ein hardal leol.
Dechrau wrth ein traed
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r we wedi bod yn blastar o fudiadau’n cynnig cymorth i’r henoed, o bobol yn cyd-dynnu i lanhau eu strydoedd o sbwriel, ac o griwiau’n dod ynghyd i drafod pa fath o gymdeithas hoffen ni ei adeiladu wedi’r cyfnod rhyfedd yma.
Mae gan bobol y grym i effeithio ar bethau trwy ddechrau wrth ein traed.
Ac mae gennym y cyfrwng (y ffôn bach yn ein poced, a’r we) i godi cwestiynau, rhannu straeon a chynnal sgyrsiau am wleidyddiaeth ein dyfodol. Am y gymdeithas ry’n ni am ei chreu.
Dyma’n cyfle i siapio democratiaeth trwy fotio am fory.
Os hoffech chi fod yn rhan o dîm Arfon neu dîm Ceredigion* sy’n defnyddio’r cyfryngau i gael effaith ar ddemocratiaeth, ymunwch â ni am sgwrs syniadau anffurfiol am 5pm, 16 Mawrth. Gallwch gael y ddolen Zoom trwy ebostio post@bro360.cymru.
*Does dim angen bod yn arbenigwr mewn Gwleidyddiaeth i ymuno. Jyst diddordeb mewn gwleidyddiaeth (‘g’ fach!)