Eisteddfod Lenyddol Llanarth 2021

Beirniadaeth a chanlyniadau 

gan Catrin Bellamy Jones
Sioned Howells enillydd Tlws yr Ifanc Eisteddfod Lenyddol Llanarth 2021

Er na fu cystadlu ar lwyfan yn neuadd y pentref eleni, roedd y pwyllgor yn falch iawn o fod wedi gallu cynnal Eisteddfod Lenyddol yn 2021.

Braf yw gallu nodi i ni dderbyn 125 o ddarnau o waith rhwng y pedair cystadleuaeth, a’r rheini wedi cyrraedd o bob cwr o Gymru – a thu hwnt! Diolch am y gefnogaeth. Dyma rai sylwadau gan ein beirniad, Eurig Salisbury:

“Yn wyneb pob dim, mae’n wych o beth fod Eisteddfod Llanarth wedi gweld y ffordd yn glir eleni i gynnal pedair cystadleuaeth lenyddol. Dim cystal ag eisteddfod llaeth cyfan, efallai, ond cam pwysig nôl mas i olau dydd. Hoffwn i ddiolch i’r eisteddfod am gael bod yn rhan o’r cam hwnnw, ac i’r cystadleuwyr am gymryd rhan. Dyma air byr am y pedair cystadleuaeth.

Tlws yr Ifanc

Ymgeisiodd criw da o dri ar ddeg am Dlws yr Ifanc, gormod i roi sylw i bawb fan hyn, yn anffodus, ond mae dau beth allweddol yn gyffredin i’r rhan fwyaf ohonynt: mwynhad yn y dweud, ond gormod ohono.

Dyma waith gan bobl ifanc sy’n amlwg yn mwynhau ysgrifennu ond, o’m rhan i, yn hytrach nag ailgylchu’r hen anogaeth honno – daliwch ati – fe hoffwn i ei chymhwyso damaid: daliwch ati i gwtogi. Byddai dewis un gair yn lle dau neu dri’n un ffordd hawdd i wella pob un o’r gweithiau hyn.

Ffordd arall yw cadw’r darllenydd mewn cof: a yw’r prif gymeriad yn un digon diddorol a chredadwy i ddenu ac i gadw sylw’r darllenydd? Os nad yw, rhaid newid! I’r cyfeiriad hwnnw y mae llwyddo.

Dyma’r tri sy ar y brig gen i: Glasfryn, a’i stori fer gynnil, uniongyrchol a digon di-lol am ddau ffrind a ddilynodd lwybrau gwahanol iawn; Jac, a’i gerdd gynnil am y Gymraeg yn Abertawe sy’n gwneud defnydd da o ddelweddau byw; a Gelli, a’i gerdd deimladwy a chynnil – y gair hwnnw eto! – am berthynas wyres a’i mam-gu.

I Gelli y mae’r brif wobr yn mynd am iddo – neu iddi, mae’n debyg – greu cerdd ddiwastraff sy’n dod i ben yn drawiadol ac annwyl iawn: ‘cawn antur arall fory’. Cawn gerdd arall fory hefyd, gobeithio, gan y cystadleuydd hwn.

Y gerdd ddigri

Ymlaen at y gerdd ddigri ar y testun ‘hunanynysu’, a theg dweud mai’r maen tramgwydd gan lawer yw’r gallu i ganu’n gyson ar fydr ac odl.

Gofalwch gynnwys yr un nifer o guriadau mewn dwy linell yn olynol a pheidio ag odli geiriau acennog ond â geiriau acennog eraill, a bydd hanner y job wedi’i wneud!

Deallodd y tri sy ar y brig hyn yn dda: Marged Ann, a’i cherdd ysgafn ar batrwm ‘Y Mochyn Du’; Dilys, a’i cherdd ddigon hen ffasiwn ond solet am broblemau priodasol; a Jac, sy’n mynd â hi, gyda cherdd sicr ei chrefft a’i thrawiad am unigrwydd y cyfnod clo. Dyma flas bach ohoni:

Rhyw unweth bob pythefnos

Fe gawn i bleser mawr

O weld wynebe’r teulu

Ar Facebook am ryw awr.

Heb dorri ’ngwallt na shafio

Fe deimlwn yn reit ffŵl,

Ond fy wyrion a’m hwyrese

O’dd yn credu mod i’n cŵl.

Limrig

O ran y limrigau gyda’r llinell osod ‘Un diwrnod ar lan afon Llethi’, mae’r swmp yn fawr ond y safon yn o isel, yn anffodus. Os oedd ficeriaid, pregethwyr, beichiogi a slyri’n weddol ddigri ryw hanner canrif yn ôl, dwedwch, nid felly heddiw bob tro! Siawns fod hen ddigon o bynciau cyfoes i’w tynnu i lawr?

Eto i gyd, cododd Ertir a Ddy Ffars wên, a chododd Elsi chwerthin. Am hynny, i’w chasgliad hi o bum limrig yr â’r wobr gyntaf, a dyma un ohonynt sy, er gwaethaf ei ddigrifwch, yn taro nodyn dwys iawn ar yr un pryd:

Un diwrnod ar lan afon Llethi,

Fe deimlais fy hun yn hiraethu:

    Er fy mod, welwch chi,

    Yn bedwar deg tri,

Ro’n i eisie mynd adre at Mami.

Y frawddeg

Cafodd pawb hwyl arni yng nghystadleuaeth y frawddeg ar y gair ‘pandemig’. Dyma rai o’r goreuon a’u ffugenwau:

Dic Siôn Dafydd: Please allow, not disqualifying English (methu’r iaith Gymraeg)

Shoni: Peidiwch â newid dim, er mwyn imi gynefino

Menna Lili: Pregethwn annibyniaeth nes daw enillion mawr i Gymru / Pery arfau niwclear drychinebau enbyd marwol i’r gwledydd

Sophia: Pryderaf ambell noson dros effaith mewnlifiad i Gymru

Clod arbennig i Manuel, a lwyddodd i ateb y gofynion mewn cwpled caeth:

Pa aros nes darpariad

edau mygydau i’r gad?

Ond Mr Idwal sy’n mynd â hi â’i frawddeg wirion o syml!

Peint, a nawr dwi eisiau mynd i gysgu

Llongyfarchiadau iddo ac, yn wir, i’r holl enillwyr.”

 

Cyhoeddi’r enillwyr

Diolch i Eurig am ei sylwadau a’i waith. Mae’n siŵr eich bod am wybod pwy yw “Gelli” (Tlws yr Ifanc); “Jac” (Cerdd Ddigri); “Elsi” (Limrig) a “Mr Idwal” (Brawddeg)!

Enillydd Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod Lenyddol Llanarth 2021 yw Sioned Howells o New Inn, Pencader, Sir Gâr.

Yn gyn-ddisgybl o ysgolion cynradd New Inn a Llanllwni ac ysgolion Uwchradd Dyffryn Teifi a Bro Teifi, aeth Sioned ymlaen i astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe a bellach mae’n gweithio fel bydwraig yn Ysbyty Glangwili Caerfyrddin. Mae Sioned yn wyneb a’n enw cyfarwydd i ni yn Eisteddfod Llanarth gan iddi fod yn llwyddiannus mewn amryw o gystadlaethau llwyfan dros y blynyddoedd ac mae’n gyn-enillydd cadair yr eisteddfod hefyd. Mae wyneb cyfarwydd yn genedlaethol hefyd gan mai Sioned oedd prif Lenor eisteddfod T yr Urdd eleni. Llongyfarchiadau mawr i ti Sioned.

Yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gerdd Ddigri mae John Meurig Jones, Aberhonddu.

Yn dod i’r brig yng nghystadleuaeth y Limrig mae John Meurig Jones, Aberhonddu.

I gloi, enillydd y Frawddeg yw Kelly Hanney, Cwm Rhondda.

Llongyfarchiadau i’r tri enillydd a diolch yn fawr i bawb a wnaeth gystadlu.