Dilyn dy Dîm: ydy chwaraeon lleol yn bwysig?

Mae rhai o sylwebwyr a pyndits mwyaf adnabyddus Cymru yn ymuno â gohebwyr chwaraeon lleol am sgwrs

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Yng nghanol y sylw mawr i’r Ewros, le Tour a’r Llewod, tybed yw chwaraeon lleol yn dal yn bwysig i bobol?

Mae dilyn y pencampwriaethau chwaraeon mawr wedi bod yn fendith i nifer dros y misoedd diwethaf.

I’r ffans, mae cael gêm i’w gwylio ar benwythnos yn fwy na chael rhywbeth arall i’w wneud – mae’n destun sgwrs gyda’n ffrindiau. Yn gyfle i ddadansoddi pwy sydd ar eu gorau a phwy sydd wedi gweld dyddiau gwell!

Diolch i’r teledu, y radio a’r we, mae modd i ni ddilyn cryn dipyn o’r campau cenedlaethol o’n soffas.

Wrth gwrs, mae pawb yn gwybod bod pob Aaron Ramsey a Josh Adams yn gorfod dechrau yn rhywle. Yn ôl y sôn, cafodd y sgowtiaid afael ar Ramsey wrth iddo chwarae dan 8 mewn pencampwriaeth yr Urdd; a dyw Adams ddim yn shei i glodfori’r dechrau a gafodd gyda Chlwb Rygbi’r Hendy yn Sir Gâr.

Yn y clybiau llawr gwlad yn ein pentrefi a’n trefi lleol mae popeth da yn dechrau. Nid wrth fagu sêr yn unig – mae’r clybiau’n galon i’r gymuned yn aml iawn.

Y clybiau lleol yn deffro

Dim ffeinals yr Ewros a’r Copa America oedd unig gemau pêl-droed mawr y penwythnos. Bu 6 gôl yn y darbi leol rhwng Llanbêr a Llanrug (4-2 i Lanbêr, rhag ofn nad oeddech wedi clywed!)

Ydyn, mae gemau Cwpan Cymru wedi dechrau ym myd y bêl gron. Bydd rhai o glybiau rygbi’r gorllewin yn mentro i’r maes am y tro cyntaf ers hydoedd ddiwedd y mis hefyd, yn falch o gael yr hawl i ddechrau tymor newydd o gemau cystadleuol.

Ac mae ’na glybiau criced a rhedeg, pêl-rwyd a nofio, hoci a seiclo, clybiau plant a llu o gampau eraill wedi dechrau dod ynghyd i ymarfer dros yr haf. I gadw’n ffit a chadw’r hwyl!

Rhoi chwaraeon llawr gwlad ar y map

Ar nos Wener 30 Gorffennaf, bydd Bro360 yn cynnal sgwrs arbennig, i drafod rôl chwaraeon lleol a sut y gallwn ni oll sicrhau ei fod yn ffynnu.

Yn y sgwrs Zoom yma ar ddechrau ‘tymor’ rhai cynghreiriau lleol, cawn glywed barn a chynghorion gan rai o’n sylwebwyr, pyndits a chyflwynwyr amlycaf yn y Gymraeg ar hyn o bryd.

Cawn hefyd glywed gan bobol sydd wrthi’n rhoi eu clybiau lleol a’u campau ar y map – trwy gydio yn y cyfryngau a mynd amdani.

Bydd y rhedwr, blogiwr a phodcastiwr, Owain Schiavone, yn arwain sgwrs gyda chriw amryddawn o fyd y campau:

  • y sylwebydd a’r cyflwynydd Nic Parry
  • y pyndit a’r cyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Gwennan Harries
  • y cyflwynydd rygbi Owain Gwynedd 
  • sylfaenydd y blog seiclo Cymraeg Y Ddwy Olwyn – Gruffudd Emrys
  • a swyddog cyfryngau CPD Nantlle Vale a chrëwr fideos – Begw Elain

Dewch i rannu profiadau a darganfod sut gallwn ni, fel ffans ein clybiau chwaraeon lleol, ddefnyddio’r we i rannu’r goliau a’r ceisiau, y wicedi a’r rasys; i ddarlledu barn y ffans o’r stand; i drin a thrafod chwaraeon lle mae’r cyfan yn dechrau – ar lawr gwlad.

I bwy? I bob ffan sydd â ffôn!

Cofrestrwch heddiw.