Dathlu diwrnodau mawr i’n milltir sgwâr, Cymru a’r byd

Mae ysgogwyr Bro360 wedi newid ffocws yn ddiweddar tuag at ysgogi straeon amserol – ond pam, a sut mae hyn di gweithio cystal?

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Mae’n bosib bod defnyddwyr brwd o’r gwefannau bro wedi sylwi newid yn y fath o gynnwys sydd wedi bod ar ei gwefan yn ddiweddar.

Yn ogystal â’r straeon sydd yn dangos y diweddaraf o’i bro, mae ’na fwy o gynnwys… amserol.

Mae’r shifft yma mewn cynnwys yn rhan o ddatblygiad y gwefannau bro, ac yn ddatblygiad o’r gwaith rydw i, a fy nghyd-ysgogydd yn Arfon, Guto Jones, yn ei wneud.

Am ddwy flynedd gyntaf gwefannau Bro360, roedd y ffocws ar ehangu’r nifer o gyfranwyr, ac am lenwi’r gwefannau hefo straeon. Straeon oedd â chysylltiad lleol, straeon trwm, straeon ysgafn, straeon o bob math. Ond efallai ddim gymaint o straeon amserol yn gysylltiedig â dyddiadau a dathliadau.

Mae’r gwaith cynllunio’n cymryd lot mwy o waith nag ysgogi arferol – yn lle tyrchu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, mae nawr angen gweithio wythnosau o flaen llaw, i dargedu dyddiadau ac unigolion perthnasol all greu cynnwys amrywiol, diddorol.

Ac wrth roi ddigon o amser i’r unigolion yna greu, rydym wedi gweld cynnwys wirioneddol wych gan bobol leol – megis fideo sut i goginio crempogau Americanaidd i ddathlu Dydd Mawrth Ynyd, neu fideo o Angharad Tomos yn darllen pwt o’i lyfr ‘Y Castell Siwgwr’ i nodi Diwrnod y Llyfr, neu darn Mari Gwenllian Healy am sut mae ei chwmni hi, Hiwti, yn dathlu’r corff benywaidd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Mae cwpwl o bethau’n neidio allan am yr esiamplau yma sy’n esbonio pam fod y ffordd newydd yma o weithio wedi llwyddo hyd yma.

Yn gyntaf – amser. Mae rhoi amser i bobol yn gadael iddyn nhw greu rhywbeth gwahanol i’r arfer, i dreulio amser yn cynllunio a datblygu cynnwys. Ac wrth weithio ar straeon sydd yn torri’r diwrnod yna, dydi’r amser yna weithiau jyst ddim yna. Mae gweithio, a chynllunio wythnosau o’ch blaen yn rhoi’r amser yma i’r crëwyr greu pethau aml-gyfrwng, gwahanol a diddorol.

Yn ail – y bobol. Drwy ddefnyddio’r cysylltiadau lleol, ac ein gwybodaeth o’r ardal a’u bobol, da ni di llwyddo i gael cynnwys gan bobol ddiddorol sydd yn wybodus am y maes, ac am y diwrnod maent yn hyrwyddo – megis yr hanesydd o Dregaron, Cyril Evans, a greoedd ei ddarn cyntaf ar Caron360 i adrodd hanes Sant Caron ar Ddiwrnod Sant Caron.

Yn wir, mae’r ffordd newydd o ysgogi cynnwys amserol wedi datblygu gwefannau Bro360 mewn i wefannau lle rydych yn cael mwy na straeon lleol – rydych yn cael straeon amserol sydd yn dathlu ein hanes, ein pobol a’n cyfraniad i’r fro.