Cymunedau Bangor a’r Felinheli yw’r wythfed criw i fwrw ymlaen i greu gwefan fro, a’r pumed yn ardal Arfon.
Neithiwr (18 Mawrth 2021) ymunodd criw brwd â Guto a Lowri o Bro360, i weld a oedd diddordeb mewn creu gwefan straeon lleol i’r ardal.
Gwelsom yn syth bod yno awydd i gyd-greu gwasanaeth lleol-iawn fyddai’n adlewyrchu bywyd a dyheadau pobol Bangor a’r Felinheli.
Erbyn diwedd y sesiwn, roedd y criw – oedd yn cynnwys cymysgedd o swyddogion a chwaraewyr clybiau chwaraeon lleol, golygyddion y papur bro, ac aelodau o gorau, mudiadau a’r Fenter Iaith – wedi penderfynu bwrw mlaen i greu eu gwefan fro eu hunain, gan ymuno â’r 4 gwefan sydd eisoes wedi’u sefydlu yn Arfon.
Ar ôl cryn drafod, penderfynwyd ar yr enw BangorFelin360 ar gyfer gwefan fydd cynrychioli dalgylch Ysgol Tryfan a dalgylch papur bro Goriad.
Y cam nesaf fydd creu’r wefan a chynnal sesiwn Zoom agored i holl bobol yr ardal, er mwyn dangos sut gall pawb gyfrannu at y wefan newydd. Ac yna daw’r cam cyffrous – y creu!
I gofrestru diddordeb mewn dod i’r sesiwn honno, maes o law, cysylltwch â Guto Jones ar gutojones@golwg.com.
Edrychwn ymlaen at weld pobol Bangor a’r Felinheli yn manteisio ar y cyfle i rannu eu straeon ar BangorFelin360 er mwyn rhoi hwb i gymdeithas, Cymreictod a busnesau’r fro.