Nid ‘darganfod’ stori fydd gohebydd – mae’r stori allan yno’n barod.

5 peth i feddwl amdanyn nhw wrth gyhoeddi straeon lleol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

“Straeon bro ydi’r straeon pwysica. Mae pob stori fawr yn dechrau yn rhywle … ac mae stori fach i’r byd y tu allan yn gallu bod yn bwysig iawn i ni. Ein straeon ni ydyn nhw.”

Dyna eiriau Dylan Iorwerth, un o ohebwyr mwyaf profiadol Cymru.

Felly beth fyddai’n gwneud stori fro dda?

Dyma griw o ohebwyr bro o Arfon a Cheredigion i gynnig ambell awgrym…