I ddathlu dechrau’r tymor i’r campau ar lawr-gwlad, mae Bro360 yn cyhoeddi cystadleuaeth.
Bydd pecyn gohebwyr chwaraeon lleol Bro360 yn cael ei roi i’r cynnwys chwaraeon mwyaf poblogaidd i gael ei gyhoeddi ar y gwefannau bro yn ystod mis Awst.
Gyda llu o gynghreiriau rygbi a phêl-droed lleol yn dechrau’n gynnar (neu’n hwyr iawn!) dros yr wythnosau diwethaf, mae’n gyfle perffaith i ailgydio yn yr arfer o gefnogi clwb y pentre.
Bydd y chwaraewyr wrth eu bodd o weld bod eu goliau ar gael ar repeat, am i chi gofio cydio yn y ffôn a’i ffilmio. Ac os mai campau llai ‘amlwg’ sy’n mynd â’ch bryd, beth am ddechrau cyhoeddi podlediad neu flog sy’n rhoi sylw haeddiannol i’ch hoff gamp?
Gallwch gyhoeddi pob math o bethau ar eich gwefan fro. Pwy ag ŵyr, efallai bydd yn ffordd o ddenu cefnogwyr newydd lleol i ddilyn eich tîm? Beth sy’n bosib?
Gallwch greu pob math o gynnwys gwahanol gan eich clwb lleol neu gamp arbennig, ond dyma rhai syniadau:
- uchafbwyntiau gêm (e.e. fideo)
- cyfweliadau â ffans ar ochr y cae (e.e. clipiau sain)
- darn barn am newidiadau neu ddatblygiadau yn y gamp
- stori newyddion am lwyddiant clwb neu unigolyn (e.e. erthygl a lluniau)
- stats a manylion sgorwyr, neu adroddiad ar ôl gêm
- sgôr allan o 10 i bob chwaraewr
- trafod rasys neu gemau’r penwythnos gyda chriw o ffrindiau (e.e. podlediad)
- heriau hwyliog o un clwb i’r llall (e.e. fideo taro’r trawst)
- proffil clwb neu chwaraewyr diddorol
- ffrwd byw o sgôrs a chanlyniadau holl gemau’r gynghrair (e.e. blog byw)
Beth yw’r wobr?
Mae’r pecyn yn cynnwys pethau y gallwch eu defnyddio gyda’ch ffôn poced: tripod i hwyluso’r ffilmio; meic bach i gael y sain gorau; llyfr nodiadau i gadw cownt o’r sgôr; a laniard gohebydd bro… a siwmper neu’ch darn dewisol o cit eich clwb lleol!
Heb anghofio’r clod a’r bri i’ch clwb, allai gyrraedd brig y gynghrair os mai chi fydd â’r cynnwys mwyaf poblogaidd!
Sut mae ymgeisio?
- Ymuno â’r gwefan fro (neu fewngofnodi os oes gennych gyfrif eisoes)
- Mynd i Creu > Stori (neu Creu > Blog byw)
- Sgwennu pennawd a rhannu’ch fideo, lluniau, blog neu erthygl ar y wefan.
- Pwyso’r botymau cadw a chyhoeddi.
Bydd y darn o gynnwys mwyaf poblogaidd yn ennill y wobr – felly cofiwch rannu’ch stori unwaith y bydd hi wedi mynd yn fyw, er mwyn denu’r gynulleidfa i’w gweld!
Iddi i gyrraedd brig y gynghrair chwaraeon lleol!