Cyfle i gymunedau de Ceredigion gael gwefan fro

Mae arolwg ar y gweill i ddarganfod a oes diddordeb i ymestyn rhwydwaith Bro360

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ydych chi’n byw yn ne Ceredigion? Eisiau gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn lleol? Newyddion? Digwyddiadau? Datblygiadau?

Bydd prosiect Bro360 o ddiddordeb i chi.

Mae cwmni Golwg Cyf. wedi comisiynu IAITH i gynnal yr arolwg er mwyn iddyn nhw fedru ystyried sut orau i ddatblygu prosiect Bro360 mewn pedair ardal yn ne Ceredigion – Dyffryn Aeron, Bro Siôn Cwilt, Llandysul ac Aberteifi.

Mae cyfle i chi gyfrannu i’r arolwg drwy ateb holiadur ar-lein.

Ewch i bori’r straeon lleol ar wefan Bro360 os hoffech weld beth fyddai’n bosib yn eich ardal chi.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect yma yn ne’r sir, cysylltwch â IAITH Cyf. ar post@iaith.cymru

Caiff yr astudiaeth dichonoldeb hon ei hariannu gan Cynnal y Cardi.