Criced lleol ar frig y tabl!

Yng nghystadleuaeth chwaraeon lleol Bro360, darn am Glwb Criced Bethesda fu’n fuddugol

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Rygbi ta pêl-droed? Mae’r ddadl am beth ydy gwir gamp genedlaethol Cymru yn un hen, ond efallai fod ’na drydydd opsiwn i’r cwestiwn yn dilyn cystadleuaeth chwaraeon lleol Bro360, a gafodd ei chynnal drwy fis Awst.

Yn dilyn sesiwn i annog pobol leol i greu cynnwys ar gyfer eu timau lleol, gosodwyd y gystadleuaeth – y darn mwyaf poblogaidd a grëwyd yn ystod mis Awst fyddai’n fuddugol, a’r crëwr yn ennill pecyn gohebwyr chwaraeon lleol Bro360, gan gynnwys tripod, meic a darn o kit eu clwb!

Ac wrth i Awst droi’n fis Medi, dwi’n falch o gyhoeddi be oedd y stori fuddugol… ac efallai eich bod wedi dyfalu, nid pêl-droed na rygbi oedd ar y brig ond darn am lwyddiant Tîm Criced Merched Bethesda ar Ogwen360, ar ôl iddynt sicrhau teitl Cynghrair Criced Merched Gogledd Cymru ym mlwyddyn gynta’r gynghrair.

C0F0F058-C8FC-4E16-847E

Merched Bethesda yn bencampwyr Gogledd Cymru

Rhys Pritchard

Bethesda yn sicrhau y Gynghrair gyda record 100%

 

Ac am fuddugoliaeth – enillodd Yr Howgets pob un o’i 14 gêm, ac yn ennill y gynghrair hefo amser i sbario.

Yn ail yng nghystadleuaeth Bro360 oedd Hannah James ar Clonc360, hefo’i darn ‘Osian yn ennill cwpan golff ei dad-cu‘, ac yn y drydedd safle oedd Manon Wyn James ar Caron360 hefo ‘Taith Rhodri‘.

Llongyfarchiadau i Glwb Criced Bethesda am y fuddugoliaeth, ac i Rhys Pritchard am ennill cystadleuaeth Bro360!

A tro nesa rydych yn clywed y ddadl am beth ydy ein camp genedlaethol – efallai bydd ’na drydedd gamp yn dod i’ch meddwl…