Rygbi ta pêl-droed? Mae’r ddadl am beth ydy gwir gamp genedlaethol Cymru yn un hen, ond efallai fod ’na drydydd opsiwn i’r cwestiwn yn dilyn cystadleuaeth chwaraeon lleol Bro360, a gafodd ei chynnal drwy fis Awst.
Yn dilyn sesiwn i annog pobol leol i greu cynnwys ar gyfer eu timau lleol, gosodwyd y gystadleuaeth – y darn mwyaf poblogaidd a grëwyd yn ystod mis Awst fyddai’n fuddugol, a’r crëwr yn ennill pecyn gohebwyr chwaraeon lleol Bro360, gan gynnwys tripod, meic a darn o kit eu clwb!
Ac wrth i Awst droi’n fis Medi, dwi’n falch o gyhoeddi be oedd y stori fuddugol… ac efallai eich bod wedi dyfalu, nid pêl-droed na rygbi oedd ar y brig ond darn am lwyddiant Tîm Criced Merched Bethesda ar Ogwen360, ar ôl iddynt sicrhau teitl Cynghrair Criced Merched Gogledd Cymru ym mlwyddyn gynta’r gynghrair.
Merched Bethesda yn bencampwyr Gogledd Cymru
Ac am fuddugoliaeth – enillodd Yr Howgets pob un o’i 14 gêm, ac yn ennill y gynghrair hefo amser i sbario.
Yn ail yng nghystadleuaeth Bro360 oedd Hannah James ar Clonc360, hefo’i darn ‘Osian yn ennill cwpan golff ei dad-cu‘, ac yn y drydedd safle oedd Manon Wyn James ar Caron360 hefo ‘Taith Rhodri‘.
Llongyfarchiadau i Glwb Criced Bethesda am y fuddugoliaeth, ac i Rhys Pritchard am ennill cystadleuaeth Bro360!
A tro nesa rydych yn clywed y ddadl am beth ydy ein camp genedlaethol – efallai bydd ’na drydedd gamp yn dod i’ch meddwl…