Clonc360 yn cyhoeddi ei 1,000fed stori leol

“Mae’n fwy na chyfrwng i rannu newyddion – mae’n gyfrwng sy’n dathlu hunaniaeth unigryw yr ardal”

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae gwefan fro Llanbed a’r cylch wedi cyrraedd carreg filltir arbennig, trwy gyhoeddi ei milfed stori ar y gwasanaeth lleol.

Sefydlwyd Clonc360 ym mis Mawrth 2015 fel partneriaeth rhwng y papur bro lleol, sef Clonc, a Chwmni Golwg, fel arbrawf i weld a fyddai modd cynnal gwefan straeon lleol.

Ei nod wrth sefydlu oedd bod yn blatfform i bobol y fro allu creu a chyhoeddi straeon amlgyfrwng am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw’n lleol, ochr yn ochr â derbyn straeon newyddion sy’n addas i’r ardal leol gan wasanaeth newyddion golwg360.

Ers ei sefydlu, mae Clonc360 wedi datblygu fel y lle i gyhoeddi straeon ar-y-funud am dref Llanbed a’r pentrefi cyfagos. Mae’r straeon wedi amrywio o weithgarwch mudiadau a digwyddiadau, newyddion sy’n torri a straeon am bobol leol. A bellach mae’n datblygu fel y lle i weld busnesau bach y fro mewn un man, gyda datblygiad Y Farchnad.

“Mae gwefan Clonc360 yn ymestyn ar y gwaith y mae gwirfoddolwyr Papur Bro Clonc wedi gwneud dros y blynyddoedd drwy hybu Cymreictod yn lleol a thwf yn y nifer o bobl sy’n darllen Cymraeg,”

– Dylan Lewis, Cadeirydd Clonc ac un o olygyddion y wefan fro.

Mae’r wefan hawdd-ei-defnyddio yn hygyrch i bob math o bobol greu, darllen a mwynhau’r arlwy yn syth o’i ffôn symudol, ac mae Dylan yn gweld gwerth y gwasanaeth i’r gymuned ac i’r iaith:

“Mae’n wasanaeth unigryw lle gall unrhyw un gyfrannu, a does dim byd tebyg i’w gael yn Saesneg yn yr ardal. Mae’n rhywbeth hollol Gymraeg.

 

“Mae mor braf hefyd cael adborth gan bobl na fyddai fel arfer yn darllen unrhyw beth Cymraeg.  Mae pobl yn dwli darllen newyddion lleol iawn.  Mae yna elfen fusneslyd yn perthyn i ni i gyd, ac mae gwefan Clonc360 yn bwydo’r archwaeth honno.”

 

Fel un o Lanbed, mae Ben Lake, AS Ceredigion, yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth amhrisiadwy y mae Clonc360 yn ei roi i fro ei febyd:

“Ni ellir gorbwysleisio cyfraniad Clonc360 at fywyd a chymdeithas ardal Llanbed.

 

“Mae’r wefan yn fwy na chyfrwng i rannu newyddion – mae’n gyfrwng sy’n dathlu hunaniaeth unigryw yr ardal, mae’n tynnu sylw at straeon na fyddai’n cael eu clywed fel arall, ac mae’n atgyfnerthu’r ymdeimlad o berthyn a chymuned yn lleol sydd wedi bod mor eithriadol o bwysig dros y misoedd diwethaf.

 

“Llongyfarchiadau i Clonc360 a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y wefan fro dros y blynyddoedd diwethaf. Ymlaen i’r 1,000 stori nesaf!”