Caron360 yn cyrraedd y 100 mewn llai na blwyddyn

Camp arbennig pobol leol Tregaron a’r cylch yn cyhoeddi 100 o straeon cyn bod eu gwefan fro yn 1 oed

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae pobol bro Caron newydd gyhoeddi’r 100fed stori ar eu gwefan fro.

Stori chwaraeon gan Arwel Jones oedd hi, sef adroddiad o gêm bêl-droed gyfeillgar rhwng dau dîm mawr yr ardal, sef Sêr Dewi a Tregaron Turfs. Ac mae’n stori nodedig ynddi’i hun – dyma’r gêm gyntaf rhwng y gelynion lleol mewn 20 mlynedd a mwy, maen nhw’n ddweud!

Derby o’r diwedd!

Arwel Jones

Sêr Dewi v Tregaron Turfs

 

Sefydlu ers llai na blwyddyn

Aeth Caron360 yn fyw ar 13 Gorffennaf 2021, ar ôl i bobol yr ardal benderfynu sefydlu gwefan straeon lleol Cymraeg.

Lai na blwyddyn yn ddiweddarach, mae’r trigolion lleol wedi cyhoeddi 100 o straeon ar eu gwefan fro, yn amrywio o fideos jôcs gan blant y fro, i newyddion am lwyddiannau lleol, i gyfres newydd ‘Clecs Caron‘, sef cyfweliadau â phobol ifanc o’r ardal fel Sara Stephens, Dylan Garner, Fflur Lawlor ac Aled Morgan.

Yn addas iawn ar y pryd, y fideo ddoniol yma oedd y cyntaf i ymddangos ar Caron360, gan un o hoelion wyth y criw sy’n arwain – Enfys Hatcher Davies:

Aros am Ypdêts

Enfys Hatcher Davies

Wedi profi problemau technegol yn ystod y Cyfnod Clo? Laptop yn pwdu? Ypdêts di-ben-draw? Gallwch chi uniaethu â ni felly. Gwyliwch hwn.

 

Yn rhyfeddol, dyw’r criw llywio’n dal heb gwrdd yn y cnawd, gan i’r wefan gael ei chreu trwy sgyrsiau Zoom yn y cyfnod clo cyntaf. Mae bodolaeth Caron360 yn brawf bod rhai pethau’n gallu dechrau, parhau a ffynnu, er gwaethaf y cyfyngiadau!

Ers hynny, mae’r criw llywio wedi bod yn cwrdd yn fisol yn ddigidol i gynnal ‘sgrym straeon’, sy’n gyfle i drafod syniadau am pe straeon sy’n haeddu sylw yn lleol.

 

30 a mwy o gyfranogwr

Gogoniant y wefan yw mai pobol leol sy’n creu. Gyda dros 30 o bobol leol wedi cyhoeddi stori, fideo neu oriel luniau ar Caron360 eisoes, y nod dros y misoedd nesaf yw denu mwy o bobol a mudiadau i gyhoeddi eu stori, wrth i’r gymdeithas leol obeithio gweld ailddechrau pethau cymdeithasol unwaith yn rhagor, wrth i fusnesau a phobol leol barhau i ddathlu llwyddiannau a cherrig milltir, ac wrth i bethau ddigwydd sy’n becso pobol leol.

Os ydych chi’n byw yn yr ardal arbennig rhwng Llanddewi a Lledrod; rhwng Bont a Phenuwch, eich lle chi ar y we yw Caron360. Os nad ydych wedi ymuno‘n barod, beth am fynd amdani heddi?

Efallai mai eich stori chi fydd yr un fwyaf poblogaidd yn y flwyddyn nesa!

 

Straeon mwyaf poblogaidd y flwyddyn: ers sefydlu Caron360

  1. Profiad cyn-ddisgybl Ysgol Tregaron o’r coronafeirws
  2. Aelod o The Struts adref yn Llanddewi
  3. Tregaron: twll o le i gynnal Eisteddfod
  4. Meddygfa Tregaron yn brechu yn erbyn Covid-19
  5. Jôc gan y dyn ei hun
  6. Doctor, doctor
  7. Pobol ifanc bro Caron am aros yn lleol
  8. Cael babi yn ystod y clo mawr
  9. Clecs Caron gydag Aled Morgan
  10. Clecs Caron gyda Sara Stephens

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)