Pam a sut i gynnal bwrlwm bro oedd testun trafodaeth ddifyr iawn yn Galeri, Caernarfon nos Wener.
Roedd y sgwrs banel yn rhan o ddigwyddiad lansio llyfryn Bro Ni – llyfryn gweithgareddau i oedolion a phobol ifanc, sy’n cymell syniadau creadigol ar gynnal bwrlwm bro.
Tri o ‘bobol sy’n gwneud i bethau ddigwydd’ yn lleol oedd ar y panel, a phob un â phrofiadau a chynghorion difyr i’w rhannu wrth i ni drafod pwysigrwydd dod ynghyd, dathlu ein bro a rhannu straeon lleol.
Anwen Roberts
O’r Felinheli mae Anwen, ac wedi bod yn berson sydd wedi gweithio mor galed yno dros y blynyddoedd wrth drefnu digwyddiadau i’r pentref. Un o’r rhain oedd Gŵyl Bro Y Felinheli ym mis Medi, ar y cyd â’i gwefan fro BangorFelin360.
Roedd o’n fraint clywed gan Anwen am ei balchder ac angerdd tuag at yr ardal a’i phentref. Un peth ddywedodd Anwen sy’n sefyll yw ei bod hi wrth ei bodd yn dathlu’r gymuned, a thrwy wneud hyn gall y traddodiad o gael cymuned glos barhau.
Dewi Jones
Twtelwr yw Dewi (rhywun sydd yn byw ardal Twthill, Caernarfon). Dinwm os yw “Twtelwr” yn derm technegol gywir, ond os fysa o, mi fysa Dewi yn sicr yn un o brif Twtelwyr y dref!
Yn ogystal â bod yn aelod o wahanol fudiadau o gwmpas Caernarfon, mae Dewi yn un o sefydlwyr grŵp cymunedol Twthill.
Trwy drefnu digwyddiadau, fel yr un diweddar o gasglu sbwriel, gobaith Dewi yw dod â phobol yr ardal at ei gilydd. Fe wnaeth Dewi grybwyll sut mae’r cyfnodau clo diweddar wedi ein dysgu ni i “ddod i nabod ein cymdogion”, a bod sgwrs sydyn gyda Mrs Jones o lawr lon yn gallu mynd yn bell iawn.
Mae’n cyfaddef bod ganddo “lwyth o ffrindiau yn eu 70 wan!”, ond bod y gwaith a wnaed yn cefnogi “fy mhobol i” gyda Cofis Curo Corona wedi rhoi boddhad mawr iddo.
Sioned Young
Mae Sioned yn aml yn cyfrannu i wefannau Bro360 ac wedi sefydlu busnes o’r enw Mwydro. Ond yn bell o fwydro gwnaeth Sioned nos Wener, wrth rannu profiadau diddorol o redeg busnes.
“Dwi’n gweld straeon busnesau bach mor ddiddorol, ac o’n i isho dangos bach mwy am y busnesau sy ganddon ni’n lleol.”
Roedd o’n braf glywed sut mae’r busnes wedi gallu ehangu o fod yn un oedd yn creu cardiau, i fusnes dylunio digidol. Soniodd Sioned bod rhannu ei chynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, ac ar ei gwefan fro, wedi bod yn rhan fawr yn ei galluogi hi a busnesau bach eraill lleol i lwyddo.
Dyma ambell bwt difyr gan y panelwyr am yr hyn sy’n allweddol i gynnal cymuned lewyrchus:
Be sy’n eich ysbrydoli i daflu eich hun i mewn i’ch cymuned?
- y merched o’ nghwmpas i
- y teimlad o golli fy mro enedigol pan symudais oddi yno
- balchder o bobol Caernarfon, a gwybod am fwrlwm y gorffennol
Be ydy’r cynhwysion angenrheidiol i gynnal bwrlwm bro?
- mentro, os ydych chi’n meddwl bod angen gwneud rhywbeth
- peidio digalonni os does dim llawer yn dod
- adnabod pobol all helpu, tu tynnu mewn a defnyddio eu cryfderau
- rhoi croeso i bawb
- cael yr hyder i fynd amdani
Diolch o galon i’r panel am rannu eu profiadau, ac i Mari Emlyn am lywio’r cyfan.
Fe wnawn ni adael gyda phwt o sylw gan Mari ei hun: “Gall Bro360 helpu trwy greu rhwydwaith o bobol sy’n gwneud i betha ddigwydd – mae rhannu straeon a gwybodaeth ymysg ein gilydd yn gallu gwneud gwahaniaeth i eraill.”
Ewch amdani i roi egni i mewn i’ch cymuned. Gall wneud byd i wahaniaeth.