Cadw yn y cof

Bro360 yn cynnal sgwrs Zoom i’ch hysbrydoli i ddod â hanes lleol yn fyw

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Elin-Nant

Elin Nant

ioanlord

Ioan Lord

John-Dilwyn-Twitter

John Dilwyn

Yn Nyffryn Nantlle, mae poblogrwydd teithiau cerdded a diwrnodau cloddio mewn safle archaeolegol yn dangos bod hanes lleol yn dal y dychymyg o hyd.

Ar ben hynny, dim ond yn ddiweddar rhoddwyd sylw yn Golwg i brosiect creadigol diweddaraf Angharad Tomos, sef arddangosfa awyr agored o hen lythyrau Silyn Roberts. Mae Angharad wedi atgyfodi’r geiriau ar hen lechi ar safle ei gartref ym Mrynllidiart.

Llechi-Silyn-3

Arddangosfa Awyr Agored

angharad tomos

Cyfle i weld llythyrau canrif oed

 

Mae cyfleoedd ym mhob cwr o’r wlad i edrych yn lleol er mwyn deall y byd. Ac mae hanes yn cynnig cyfle arbennig i ni edrych yn ôl ar sut oedd pobol yn arfer gwneud pethau yn ein milltir sgwâr, wrth i ni feddwl am y dyfodol…

Dod â hanes lleol yn fyw

Felly, oes modd i ni fanteisio ar gyfryngau digidol i gyflwyno hanes ein hadeiladau, ein pobol a’n tirwedd mewn ffordd ddifyr, i gyrraedd cynulleidfa newydd? Sut fyddech chi’n mynd ati i greu fideo ar gynllun sychu Dyffryn Nantlle, neu sgwennu am brofiadau milwr lleol yn yr Ail Ryfel Byd?

Dyma rai o’r pethau fydd yn cael eu trafod yn y sgwrs Zoom Cadw yn y cof am 7pm ar 27 Hydref.

Yn ymuno â Guto Jones fydd tri sy’n hen law ar rannu hanes lleol:

Ymuno

Cofrestrwch i ymuno â ni am sgwrs ddifyr, i ddarganfod sut gall pawb ohonom sy’n ymddiddori mewn hanes gadw hanes bro ar gof a chadw.