BroAber360 yn cyrraedd 100 o gyfranogwyr

“mae na ambell berson wedi cysylltu â fi i weud cymaint roedden nhw wedi mwynhau darllen yr erthygl”

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Ers sefydlu gwefan BroAber360, mae 100 o bobol wedi cyfrannu tuag ati – sy’n dipyn o gamp.

Cafodd BroAber360 ei sefydlu ym mis Hydref 2019, ac ers hynny mae nifer o straeon diddorol ac amrywiol wedi ymddangos ar y wefan fro.

Ar ddechrau’r flwyddyn newydd cyrhaeddodd BroAber360 ei ganfed cyfranogwr wrth i Emily Lloyd gyhoeddi ei stori.

Ysbyty Byddin yr Iachawdwriaeth, Chikankata

Edrych nôl ar 2020: Gwahanol fyd, tramor ac adref

Emily Lloyd

Pan ddechreues i astudio i fod yn feddyg 6 mlynedd nôl, bydden i byth wedi meddwl y bydden i’n dechre fy swydd yng nghanol pandemig. Ond dyna lle nes i weld fy hun yn mis Mehefin 2020. 

Mae ei stori’n un ddifyr, ac yn cofnodi sut effaith gafodd y pandemig arni hi fel myfyrwraig meddygaeth.

Chwe mlynedd yn ôl, prin oedd hi’n meddwl y byddai’n dechrau ei swydd gyntaf fel meddyg yng nghanol pandemig – ond ym mis Mehefin 2020 derbyniodd ei swydd gyntaf yn Ysbyty Glangwili.

Dechreuodd 2020 yn dra gwahanol iddi, a chafodd gyfle i weithio mewn ysbyty yn Chikantaka, tref wledig yn Zambia. 

Ar BroAber360, aeth Emily ati i drafod ei phrofiadau yn Affrica, cyn mynd ymlaen i esbonio’r hyn oedd yn ei disgwyl yn ôl yng Nghymru.

“Mae’n wir – gall unrhyw un gyfrannu!”

Pam mynd ati i gofnodi hanes ei blwyddyn, felly?

“Pan dw i’n edrych nôl ar 2020, mae’n hawdd meddwl amdani fel ‘blwyddyn wael’, rhwng y pandemig a’r cyfnodau clo.

“Ond, fel rhywun sy’n gweithio i’r gwasanaeth iechyd, mae myfyrio ar ddigwyddiadau yn rhan bwysig o ymdopi â phrofiadau anodd. Felly, roedd ysgrifennu’r erthygl yn gyfle gwych i ganolbwyntio ar y pethau da ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn, a gobeithio’i fod e’n rhywbeth diddorol i bobol ei ddarllen!”

Tybed os oes gan Emily air o gyngor neu eiriau o anogaeth i eraill sy’n ystyried cyfrannu i’w gwefannau bro?

‘”Mae’n rhaid i mi gyfadde’, dwi heb ysgrifennu unrhyw beth swyddogol yn y Gymraeg ers cyfnod TGAU! Felly, mae’n wir – gall unrhyw un gyfrannu!” datgelodd Emily.

“Gallwch sôn am unrhyw beth!”

Dod yn rhan o’i chymuned

Daw Emily yn wreiddiol o Sir Benfro, ond mae hi bellach yn byw mewn tŷ fferm ger Aberystwyth gyda’i chariad.

“Er mai merch fy milltir sgwâr ydw i, dwi’n lwcus fy mod wedi cael fy nghroesawu i ardal sydd bron cystal â Sir Benfro (er dwi dal i weld eisiau clywed “wêdd hi’n wêr yn y cwêd dwê”)!” meddai Emily.

Roedd cyfrannu tuag at ei gwefan fro yn gyfle iddi ddod yn rhan o’i chymuned newydd.

“Mae’r wefan yn ffordd dda i wybod am ddigwyddiadau’r ardal, a hefyd i ddod i adnabod y bobol,” meddai Emily.

“Yn ogystal â hyn, mae na ambell berson wedi cysylltu â fi wedi darllen yr erthygl i weud cymaint roedden nhw wedi mwynhau ei ddarllen!”

Mae’n “rhaid dyfalbarhau”

Fel yr un a ysgogodd Emily i rannu ei phrofiadau ar BroAber360, dywedodd Enfys Medi fod ysgogi straeon yn “brofiad grêt, oherwydd mae’n gyfle i gysylltu gydag amrywiol bobol a dechrau sgwrs.”

“Nid yw’n hawdd bob amser oherwydd nid yw pob cyswllt yn arwain at stori, felly mae’n rhaid dyfalbarhau.”

Gyda chant o bobol wedi cyfrannu stori at BroAber360, dywedodd Enfys ei fod yn “hyfryd gweld amrywiaeth o enwau pobol yr ardal yn cyfrannu at y wefan fro.”

Niferoedd uchel o gyfranogwyr = gwefan gynaliadwy, ffres, a chyfredol 

Mae’r cynnwys sydd i’w weld ar yr holl wefannau bro yn amrywiol, ac mae’n gyfle i bobol rannu hanes digwyddiadau a llwyddiannau, yn gyfle i fwrw bol, ac yn fodd i adrodd newyddion lleol.

“Mae’r wefan yn gwneud newyddion lleol iawn yn hygyrch i bawb,” meddai Enfys.

“Mae hyn yn golygu bod cyfrannu at y wefan fro yn tynnu sylw bobol leol yn y filltir sgwâr at ddigwyddiadau, llwyddiannau, neu straeon sy’n effeithio arnyn nhw.”

A thrwy gael niferoedd uchel o gyfranogwyr, mae’n “sicrhau cynaliadwyedd y wefan i’r dyfodol, gan ei chadw’n ffres a chyfredol.”

Roedd clywed bod BroAber360 wedi llwyddo i gyrraedd y garreg filltir yn newyddion gwych i Enfys, yn enwedig mewn cyfnod lle does neb yn cwrdd â’i gilydd er mwyn gallu annog pobol i gyfrannu straeon wyneb yn wyneb.

“Gobeithio gallwn adeiladu ar hyn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan obeithio bydd y cyfyngiadau yn llacio a mwy o gyfle i fynd mas i gwrdd â phobol, a chodi ymwybyddiaeth o’r wefan fro a’i photensial.”

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Ar Lafar -Digwyddiad i oedolion sy’n dysgu Cymraeg

10:00, 20 Ebrill (Mynediad am ddim. (mae rhai gweithgareddau yn talwch beth allwch chi))

Eisteddfod Gadeiriol Y Ffor

12:00, 20 Ebrill (Prynhawn a hwyr: Oedolion £3.00 Plant 50c. Tocyn dydd £5.00)