
Fflur a Ffion yn blogio’n fyw o Tregaroc Bach Bach
Newyddion cyffrous! Mae datblygiad newydd ar wefannau Bro360 yn golygu ei bod yn bosib creu Blog byw!
Beth?
Mae blog byw yn eich galluogi i greu ffrwd byw o ddigwyddiad.
Nid crëwr y blog yw’r unig berson sy’n gallu cyfrannu lluniau, fideos a sylwadau – mae pawb lleol sydd â chyfri ar y wefan yn gallu gwneud.
Dyma ambell esiampl o flog byw o ddigwyddiad lleol:
- Diwrnod o gystadlu mewn escape room
Blog byw o JENGYD
- Gwersyll chwaraeon
Gwersyll Haf Rygbi’r Cofis
- Noson y cownt mewn etholiad
Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yn Arfon
- Cynhyrchiad creadigol sy’n teithio o un lle i’r llall
YN FYW: Clera Ceredigion
- Sioe amaethyddol
Sioe Tregaron
Sut?
Mae creu blog byw yr un mor hawdd â chreu stori neu ddigwyddiad ar y wefan fro.
Ar ôl Ymuno / Mewngofnodi, ewch i
Creu > Blog byw
Ychwanegwch deitl bachog, a chyflwyniad byr yn disgrifio’r digwyddiad, yna cliciwch ar ‘ychwanegu diweddariad’, ac mi fyddwch chi’n barod i ddechrau cyhoeddi’r diweddara’!
Mae modd ychwanegu lluniau, fideos, clipiau sain, a mewnosod pethau sydd wedi’u hysgrifennu’n barod ar Facebook a Twitter ac ati.
Beth am holi cwestiwn ac annog pobol i ymateb yn y sylwadau?