Beth am ddweud ‘Helo’ wrth Blod?

Helo Blod yn helpu busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Efallai eich bod wedi sylwi bod un cyfrannwr ychydig yn wahanol yn ymddangos ymhlith y busnesau ar dudalennau’r Farchnad.

Mae Bro360 yn falch o roi lle i Helo Blod – y gwasanaeth sydd yn cynnig help llaw i fusnesau ddefnyddio’r Gymraeg.

“Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a chyngor cyfeillgar, cyflym, rhad ac am ddim sydd yma i dy helpu di.  Os wyt ti’n defnyddio ychydig o Gymraeg yn dy fusnes yn barod ac am ddefnyddio mwy, neu’n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf, ry’n ni yma i dy gefnogi di.

Pa fusnes bynnag sy gyda ti, mae Helo Blod yn gallu gwirio testun neu gyfieithu – gallai defnyddio ychydig o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr i dy fusnes.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg bob mis, gwirio testun Cymraeg, a chyngor ymarferol. Gall Helo Blod hyd yn oed anfon laniardau a bathodynnau Iaith Gwaith atat ti.

Felly, os wyt ti eisiau cyrraedd mwy o bobl drwy gyflwyno ychydig o Gymraeg i dy fusnes, beth am ddweud Helo wrth Blod? Cer draw i’r wefan i gael gwybod mwy! Llyw.Cymru/HeloBlod

Mae Helo Blod yma i gefnogi a chynyddu busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn rhan o Brosiect 2050, Llywodraeth Cymru.”

Cysylltwch â Helo Blod i gael gwybod sut y gallwch fanteisio ar y gwasanaeth, er mwyn teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg i hyrwyddo’ch busnes ar y gwefannau bro a thu hwnt!