Yn ddiweddar mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi 12 comedi newydd i gwmnïau drama Cymru.
Mae’r gyfres Dwy Ddrama Ha Ha! yn cynnwys 6 chyfrol, a 12 drama.
Dyma gyhoeddi’r lansiad byr ar ffurf fideo o sgwrs yng nghwmni 3 aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân: Endaf Griffiths, Cennydd Jones a Carwyn Blayney, sy’n gyfrifol am y ddrama Oli.
Mae noson o ddramâu gan gwmnïau lleol yn parhau i fod yn atyniad cyffredin ar lawr gwlad. Yr hyn sy’n brin ydi deunydd newydd i’w berfformio. Dyma gyfres newydd o ddramâu i geisio cau ychydig ar y bwlch a chynnig mwy o ddewis i gynhyrchwyr a pherfformwyr. Mae’r pwyslais ar fwynhau ac ar chwerthin – ond mae yma ambell olygfa gyfarwydd o fywyd cyfoes hefyd.
Fel mae un o’r bois yn ei ddweud yn y lansiad, “Mae’r awch yna i greu rhywbeth, bydd y gyfrol yma’n llawer o help!”
Mae’r cyfrolau yn cael eu cyhoeddi gan bwyllgor Gŵyl Ddrama’r Odyn gyda chymorth Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog a nawdd Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, ac maent yn cael eu disgrifio fel “comedïau i gwmnïau ifanc (ac ifanc eu hysbryd)”:
- ‘Dan y Morthwyl’ a ‘Nyth Cacwn’ gan Ifan Gruffydd Jones.
- ‘Oli’ gan Carwyn Blayney, Cennydd Jones ac Endaf Griffiths a ‘Y Bwldoser’ gan Sam Jones.
- ‘Gwylltio’ gan Haf Llewelyn a ‘Ffyrst Rispondars’ gan Gwynedd Huws Jones.
- ‘Creisus Canol Oed’ gan Gwenan Gruffydd a ‘Hunanynysu yn Ynys y Gors’ gan Myrddin ap Dafydd.
- ‘Rhiwbob’ gan Peter Hughes Griffiths a ‘Lle bo camp bydd rhemp’ gan Meinir a Gwion Lynch.
- ‘Pla’r Gwylanod’ gan Eirlys Wyn Tomos ac ‘A oes Heddwch?’ gan Dafydd Llewelyn.
Mae modd prynu’r cyfrolau yn eich siop lyfrau leol, ar wefan Gwales neu ar wefan Gwasg Carreg Gwalch.
Llwyfannu drama; her ar gyfer y flwyddyn newydd, efallai?