Yr allwedd i ailagor tafarn y Vale yn nwylo pobol Dyffryn Aeron

Yr actor Matthew Rhys yw’r diweddaraf i gefnogi’r fenter yng Ngheredigion

Carys Mai
gan Carys Mai

Matthew Rhys yw’r diweddaraf i gyhoeddi ei fod wedi prynu siârs ym Menter Tafarn y Vale, wrth i’r ymgyrch groesi’r £100,000.

Fe gyhoeddodd ar Twitter ei fod newydd brynu cyfranddaliadau mewn tafarn yr oedd Dylan Thomas, neb llai, yn arfer mwynhau peint ynddi.

Mae ein tafarn leol yn Nyffryn Aeron newydd gau, ac mae’r gymuned wedi sefydlu menter gydweithredol er mwyn prynu’r Vale a’i ailagor.

Rydym wedi gosod nod o godi £330,000 trwy siârs, a hynny erbyn 12 Rhagfyr.

Heno, cyhoeddwyd fideo ar dudalen Facebook y fenter i ateb rhai o’r cwestiynau mawr am sut bydd y cyfan yn gweithio.

Wrth i Eilir a Tess, dau o frodorion Felinfach, fynd â ni o gwmpas yr adeilad gwag, maen nhw’n darganfod ym mhle mae’r allwedd i ailagor y Vale.

Mae hwnnw gyda ni – bobol yr ardal.

Gyda’n gilydd, gallwn ddilyn ôl traed Menter Tynllan yn Llandwrog, yr Hudd Gwyn yn Llandudoch, Menter y Plu yn Llanystumdwy a llwyth o fentrau eraill, a phrynu ac ailagor ein hoff dafarn.

I gydio yn y cyfle, prynwch siârs ar-lein heddi.