Mae chwerthin yn donic! Ac mae angen pob math o donic arnom yn ystod cyfnod rhyfedd y coronafeirws.
Dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf mae criw o bobol ifanc yng Ngheredigion wedi ymateb i heriau cyfnod y coronafeirws yn y ffordd orau bosibl – trwy chwerthin ar ein pennau ni’n hunain!
Mae’r criw wedi creu cyfres o fideos spŵff ac yn eu rhyddhau ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol Clonc360 a BroAber360, ac mae croeso i chi ymuno â’r hwyl.
Cwcan gatre
Ydych chi’n un o’r bobol ’ma sydd wedi ymuno ag un o’r grwpiau Facebook newydd? Mae cymaint i’w cael – o grwpiau cyd-ganu i grwpiau rhannu lluniau o’ch crefft ddiweddaraf. Roedd y cwbwl yn ormod i Gwion Ifan. Ar ôl cael ei wahodd i’r 100fed grŵp, penderfynodd gyfrannu fideo ‘Curo Corona’n Cwcan‘ i roi ei sbin ei hunan ar sut i goginio pryd o fwyd ffein o sgratsh.
Gwrandwch ar Gwenith…
Achos hi yw Pillar of the Community Pontnantygroes. Mae hi newydd ffindio mas rhywbeth cwbwl NEWYDD ac ANHYGOEL am ei phentre ers dachre cyfnod y coronafeirws. Tafarn… sy’n gwerthu CWRW!
Amser…CWIS!
Pwy sy HEB gymryd rhan mewn cwis dros y we yn ystod y cyfnod rhyfedd yma? Sdim ots bo’ chi heb weld eich gilydd yn y cnawd ers 10 mlynedd – mae’n rhaid gwneud y cwis digidol gyda’ch ffrindiau coleg, er mwyn ‘cadw mewn cysylltiad’! Ond nid pawb sy’n gallu ymdopi â’r dechnoleg newydd… Mae popeth (bron) yn mynd o’i le i Carwyn, Endaf a Cennydd druan.
Seren firal newydd y byd pêl-droed
Pan aeth ei fam yn firal gyda fideo ohoni’n cicio pêl trwy ffenestr velux y tŷ, roedd yn rhaid i Steffan Nutting gyfweld â hi er mwyn holi’r cwestiynau pwysig. Roedd Mair Nutting haeddu ei lle ar Sky Sports News am gyflawni’r fath gamp!
Cymryd yr her i redeg 5k
Fe ffindiodd Endaf Griffiths hi’n anodd gwrthod her a osodwyd gan ei ffrind ar Instagram, sef rhedeg 5k, rhoi £5 i achos da, ac enwebu 5 person i barhau â’r her. Yn anffodus, dyw Endaf ddim yn rhedwr mowr.
Does unman yn debyg i gartre
Dim sboilers fan hyn wrth i Gwion Ifan ddefnyddio’r dechnoleg yn ei boced i gadw mewn cysylltiad â’r teulu…
Dy gyfle di i greu
Oes ’da ti syniad am fideo? Gelli di greu’r fideo spŵff nesa – dim ond syniad a ffôn sy’ angen!
Cysyllta i ymuno â’r criw.