Ymgyrch i gefnogi busnesau bach ein bro

Bro360 sy’n annog pawb i restru eu hoff fusnesau bach lleol, a gwario yno nawr

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ry’n ni yng nghanol cyfnod o newid mawr. Nid yn unig mae bron pob gweithgaredd yn ein cymunedau wedi’u canslo neu’u gohirio am gyfnod amhenodol, ond bydd holl ysgolion Cymru yn cau ddydd Gwener ac mae llawer o bobol yn wynebu cyfnod yn gweithio o adre ac amser hir heb gymdeithasu.

Ond er yr holl bethau yma sy’n siŵr o darfu’n ofnadwy ar ein bywydau, rhowch eiliad i feddwl am y busnesau bach annibynnol sy’n wynebu cyfnod ansicr difrifol dros yr wythnosau a’r misoedd nesa.

Oes ’na rywbeth positif y gallwn ni ei wneud i’w helpu?

Oes!

Beth am ddefnyddio’r cyfle yma i ddangos ein diolch i fusnesau bach y fro trwy wario gyda nhw’n awr?

Rhestru, rhannu, gwario!

Mae llawer o fusnesau lleol yn gwerthu talebau, ac mae eraill yn barod iawn i gludo nwyddau i’r cartref os ydych yn byw yn y filltir sgwâr. Felly ewch ati i wario eich punnoedd yn lleol!

A beth am fynd gam ymhellach? Crëwch restr debyg i’r un isod, a nodwch / tagiwch yr holl fusnesau bach allech ddim â byw hebddyn nhw.

O rannu’r rhestr yn eang, a gwario, efallai y gallwn ni i gyd wneud peth bach i helpu’r economi leol a chadw drysau ein hoff fusnesau ar agor.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)

1 sylw

Lowri Jones
Lowri Jones

i ddachre – ymddiheuriade am y lluniau. Yn enwedig y ddafad!
yn ail – dyma dy rhestr personol i. Ar fin ei rannu ar Twitter, Facebook ac Insta… gwnewch chi hefyd :)
– Gwesty Cymru
– Medina
– Bara Gwalia Llanybydder
– Ben Bwtsher Llan-non
– Y Swan
– Siop Inc
– Alun Gaffey

Mae’r sylwadau wedi cau.