5 o gyfranwyr Bro360 yn rhannu profiadau’r saith mis diwetha’

“Gwerthfawrogi’r pethau bach mewn bywyd…”

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Does dim angen dweud bod bywydau pawb wedi’u troi ben i waered dros y saith mis diwetha’. Bellach, mae Zŵmio yn weithred ddyddiol, fydd canu pen-blwydd hapus byth yr un fath, ac mae’r gair ‘cwis’ yn ddigon i’n dychryn.

Mae pobol, busnesau a mudiadau lleol wedi wynebu heriau o bob math yn sgil y pandemig, ac wedi addasu’n rhyfeddol er mwyn ymdopi â’r newidiadau.

Pobol yn rhannu profiadau

Dros yr wythnosau diwetha’ bu ambell un yn rhannu eu profiadau ar y gwefannau bro, sydd bellach yn cynnwys 7 gwefan – BroAber360, Clonc360, BroWyddfa360, Caernarfon360, DyffrynNantlle360, Caron360 ac Ogwen360.

Er gwaetha’r holl gyfyngiadau a’r ansicrwydd, yr hyn sy’n clymu’r holl straeon yw’r gallu i addasu, y dyfalbarhad a’r grym i werthfawrogi’r pethau bychain.

Dyma ddetholiad o’r straeon hynny…

“Côr Gobaith a’r cyfnod clo” – ar BroAber360

Fel pob côr arall bu’n rhaid i un côr o ardal Aberystwyth roi’r gorau i’w cyfarfodydd ym mis Mawrth, a throi at Zoom.

Llwyddodd Côr Gobaith i addasu, ac ailgychwyn eu hymarferion tu allan ym mis Gorffennaf, pan laciwyd rhywfaint ar gyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae’r côr yn ffyddiog o fod ‘yma o hyd,’ a hynny er gwaetha’r holl gyfyngiadau a’r ansicrwydd.

Cor-Gobaith-canu-tu-allan-1

Côr Gobaith a’r cyfnod clo

Côr Gobaith

Hanes sut y mae côr o ardal Aberystwyth wedi dygymod yn ystod cyfnod y pandemig

 

6 Mis o Covid a Gofid – ar BroWyddfa360

Nid y chwe mis diwetha’ fu’r chwe mis gora i redeg busnes lletygarwch ar droed yr Wyddfa, fel mae perchennog Gallt y Glyn yn gwybod yn iawn.

Bu’n gyfnod o ‘wrthdaro mewnol’ a chwestiynu i nifer fawr ohonom, ond mae’r her yn un anoddach fyth wrth geisio rhedeg busnes.

Mae’r pwt yma gan Elin Aaron yn rhoi syniad o sut brofiad ydy rhedeg busnes bach lleol yn ystod y cyfnod ‘ma, yn enwedig wrth i reolau a chanllawiau newid fesul wythnos, bron â bod.

Er gwaetha’r caledi, mae’n pwysleisio’r angen i atgoffa’n hunan bod ‘na bobol mewn sefyllfaoedd gwaeth.

Mae’n sicr bod y cyfnod wedi cryfhau cariad nifer ohonom at ein cynefin, ac nid yw Elin yn ddim gwahanol – “os oes rhaid ni fod wedi ein cyfyngu i un ardal ma’ Llanberis, Eryri a Gwynedd yn le arbennig iawn.”

6 Mis o Covid a Gofid

Gallt y Glyn

Y profiad a’r heriau a wynebodd bwyty yn Llanberis yn ystod y cyfnod clo.

 

Mae’r brwydro yn parhau… – ar Caernarfon360

Cais sydd gan Erin Bryfdir yn ei stori hithau – cais i bawb gadw at reolau a chanllawiau er mwyn diogelu eu hunain ac eraill rhag y coronafeirws.

Fel un sydd wedi gweithio shiffts 12 awr mewn ysbyty drwy gydol y pandemig, mae Erin yn fwy ymwybodol na neb o effaith andwyol y feirws.

Serch diflastod y cyfnod clo i rai, mae nifer ohonom wedi darganfod gwerth yn y “pethau bach mewn bywyd,” yn ôl Erin.

A ninnau ar drothwy ail don a thymor y ffliw mae’n debyg y bydd yn rhaid bodloni ar y pethau bach hyn unwaith yn rhagor.

 

Cael Babi yn ystod y Clo Mawr – ar Caron360

Bu Megan Jenkins, o Landdewi Brefi, yn rhannu ei phrofiad o gael babi yn ystod y Clo Mawr.

Er bod Daniel, ei phartner, yn bresennol yn ystod genedigaeth Penri, treuliodd Megan y diwrnod wedyn yn yr ysbyty ar ei phen ei hun, a heb ymwelwyr.

Yr hyn a dorrodd ei chalon, yn fwy na dim byd arall, oedd bod teulu a ffrindiau yn colli allan ar weld Penri.

Mae’r profiad o gael babi yn ystod y Cyfnod Clo yn dra gwahanol, ond cafodd Megan a Daniel amser i fwynhau Penri yn fabi bach gan fod bywyd, fel arall, yn symud yn arafach na’r arfer.

5 o gyfranwyr Bro360 yn rhannu profiadau’r saith mis diwetha’

“Gwerthfawrogi’r pethau bach mewn bywyd…”

 

Cerddoriaeth dan Glo: beth ddigwyddodd? – ar Ogwen360

Mae’n debyg bod nifer ohonom yn dyheu am gael bod mewn neuadd chwyslyd yn gwrando ar gerddoriaeth byw, a dydi Awst ddim yn Awst heb ‘Steddfod nadi?

Dafydd Hedd fuodd yn edrych ar sefyllfa’r diwydiant cerddorol dros y chwe mis diwetha’ gyda’r cerddor Elis Derby.

Bu’r ddau yn trafod gigs rhithiol, cefnogaeth (neu ddiffyg cefnogaeth) y llywodraethau i’r celfyddydau, a’r cynnydd mewn pobol sydd wedi prynu offerynnau dros y cyfnod ‘ma.

Er i’r ddau gytuno bod gigs digidol wedi bod yn hwyl, yn y bôn all hyn fyth lenwi’r bwlch mae absenoldeb gigs wedi ei adael.

Cerddoriaeth dan Glo – Beth ddigwyddodd?

Dafydd Herbert-Pritchard

Edrychiad ar sefyllfa’r diwydiant gerddorol dros y 6 mis dwythaf a sgwrs gyda Elis Derby

 

Dyna gip ar brofiadau, myfyrdodau a sylwadau ambell un ar fywyd yn ystod y cyfnod clo.

Porwch drwy’r gwefannau, darllenwch a mwynhewch, a chofiwch y gallwch chithau hefyd rannu eich stori – mae’r gwefannau yn blatfform i bawb sy’n byw yn lleol.