Ymateb i’r coronafeirws: helpu papurau bro Cymru i barhau i gyhoeddi

Mae Bro360 yn cynnig gwasanaeth dros dro i helpu papurau bro Cymru gyfan i barhau i gyhoeddi

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae ein papurau bro traddodiadol yn wynebu sefyllfa argyfyngus yn y cyfnod hwn, a sawl un yn gofyn y cwestiwn “ydyn ni am allu parhau i ddosbarthu dros y misoedd nesa?”

Ers y 70au a’r 80au mae papurau bro ar draws Cymru wedi bod yn cyflawni’r gwasanaeth pwysig o gadw cyswllt rhwng pobol ein bröydd a chyhoeddi straeon am ein ffordd o fyw.

Ond mae’r cyfyngiadau symud yn ystod y cyfnod o ymdopi â’r coronafeirws yn gosod her enfawr i’n papurau.

Syniadau am sut i barhau

Ar ôl i sawl papur bro gysylltu â Bro360 dros y diwrnodau diwethaf, rydym yn awyddus i gynnig rhai atebion allai helpu pob papur i gyhoeddi’n ddigidol – fel ateb dros dro i unrhyw bapur sy’n dymuno cydio yn y cyfle.

Dyma rai opsiynau y gallwn eu cynnig i bob un o bapurau bro Cymru (heb anghofio’r un papur yn Lloegr!):

  • adran ar wefan ganolog Bro360.cymru i bapurau bro Cymru
  • gofod i bob papur rannu fersiwn PDF o’u papur ar-lein
  • gofod i bob papur gyhoeddi erthyglau unigol ar-lein
  • cymorth technegol bob cam o’r ffordd

Trwy gymryd y cyfle i barhau i gyhoeddi’r papur ar-lein yn y tymor byr, gobeithio y gallwn helpu i gynnal y momentwm a’r diddordeb ar gyfer y tymor hir – pan fydd modd i bob papur ailddechrau argraffu, plygu a dosbarthu eto.

Diddordeb?

Mae croeso i unrhyw bapur bro sydd â diddordeb gysylltu â Lowri Jones, Cydlynydd Bro360, ar lowrijones@golwg.com i drafod yr opsiynau uchod (neu syniadau eraill!)

Cip ar wefannau straeon lleol Bro360

Mae Bro360 yn brosiect peilot sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddwy ardal yng Nghymru (Arfon a gogledd Ceredigion). Ar hyn o bryd, mae bröydd yn yr ardaloedd hynny wedi creu gwefannau straeon lleol newydd, fel platfformau sy’n gweithio ochr yn ochr â phob un o’r papurau bro unigol, ac mae tîm Bro360 yn cynnig cymorth technegol ac ysgogiad parhaus i’r cyfranogwyr lleol allu cyhoeddi’n amlgyfrwng.

Cymerwch olwg ar y gwefannau bro hynny i gael syniad o’r hyn sy’n cael ei greu gan bobol Arfon a Cheredigion!

A’r ddwy wefan newydd sbon: