Ail wythnos Ionawr – un brysur i Bro360

Sgwrs dros beint, stori ‘codi gwên’ yr wythnos, a gig cudd Dyffryn Nantlle – blas o wythnos Bro360.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Panto Llechen las – un o brif straeon y gwefannau bro yr wythnos hon

Ry’n ni wir wedi dod nôl “i drefen” ers y Dolig yn HQ Bro360!

Ar ôl hoe dros yr ŵyl – i’r staff, ond yn bwysicach, i’r bobol leol sy’n cyfrannu at eu gwefannau bro – mae dechrau mis Ionawr yn gyfle da i osod ein gobeithion am y flwyddyn.

Wythnos ddiwetha, fe fuodd y tîm i gyd yn ein swyddfa fach yn Arad Goch, Aberystwyth, yn cynllunio ymgyrchoedd a blaenoriaethau’r misoedd nesa gyda’n gilydd. Roedd hi’n braf cael cwmni Ioan, sy’n gweithio ar ran cwmni Wavehill i werthuso llwyddiant y prosiect (ac yn ein helpu i weld ydyn ni’n gwneud ein gwaith yn dda neu beidio!)

Ar ôl diwrnod llawn ddiwedd wythnos ddiwethaf, dyma ni’n bwrw ati ag egni newydd yr wythnos hon i ail-gydio yn y gweithgarwch yn y bröydd gyda chi, a dyma’r uchafbwyntiau:

 

Sgwrs dros beint

Nos Lun, cyfle pobol Dyffryn Peris (ac ardal papur bro Eco’r Wyddfa) oedd hi i gael sgwrs am eu gwasanaeth digidol nhw. Er nad yw’r wefan hon yn fyw eto, mae brwdfrydedd y criw ifanc yn arbennig, ac mae’n dda dweud ein bod ni ond ddau gam bant o allu cyflwyno gwasanaeth digidol newydd y fro!

Ein gobaith yw cydweithio’n agos iawn â’r papur bro i greu platfform digidol sy’n ategu’r cyfrwng print ac yn manteisio ar egni pobol ifanc y Dyffryn i rannu popeth sy’n bwysig am y fro trwy’r cyfryngau newydd.

Byddwn yn symud i gam nesa’r datblygu yn fuan, lle byddwn yn rhoi’r cyfle i chi – bobol yr ardal – ddewis enw eich gwasanaeth… felly dechreuwch feddwl be fyddai’n addas, a chadwch lygad allan am y datblygiadau!

 

Beth wyt ti’n golygu?

Sesiwn ychydig yn wahanol oedd mlaen nos Fawrth yng ngogledd Ceredigion, wrth i rai o’r dwsin o olygyddion sydd gan wefan BroAber360 ddod ynghyd i gael cyngor gan Dylan Iorwerth. Fel un o’r gohebwyr a’r golygyddion mwya’ profiadol yn y wlad, fe fuodd y criw lleol yn ei holi’n dwll am beth ddylsen nhw ei wneud a pheidio ei wneud wrth olygu straeon cyfranogwyr eraill!

Un cwestiwn yr oedd e’n ei rannu â’r criw oedd: Wyau ffresh ar werth yma – a fyddech chi’n tocio hwn? Roedd yn ymarfer da ar gyfer golygu penawdau a bod yn gryno!

 

Gig cudd yn Nyffryn Nantlle

Ar yr un noson buodd Guto mewn cyfarfod i drefnu gig newydd sbon yn Nyffryn Nantlle. Ni’n edrych mlaen i weld ffrwyth y syniadau creadigol o’r noson yn troi i fod yn straeon aml-gyfrwng diddorol dros yr wythnosau nesa!

 

Arddangosfa Arad Goch

Buodd Dan yn agoriad arddangosfa gelf newydd yn Arad Goch nos Iau. I weld mwy am yr artistiaid, gwyliwch y fideo fach yma!

 

Ysgogi straeon amrywiol

Prif waith yr wythnos i Dan a Guto – Ysgogwyr lleol y prosiect – yw eich helpu a’ch annog chi i rannu eich straeon. Mae cymaint yn digwydd yng Ngheredigion ac Arfon, nes bod digon i’w rannu. Hyd yn oes ar ddechrau mis Ionawr fel hyn!

Dyma rai o’n hoff straeon yr wythnos hon:

  • Stori #codigwên yr wythnos yw hon gan Jon Stammers, ar ogwen360. Mae’n rhoi blas i ni o beth sydd i ddisgwyl gan Banto Llechen Las ‘leni… ac er bod Jon yn cyfaddef nad yw e wir yn deall y plot, “‘dy hynna erioed wedi stopio ni na’r gynulleidfa ei fwynhau o’r blaen!!” ?

 

  • Blog personol yr wythnos yw’r stori yma gan Sara Jones. Mae darllen am brofiad y ferch ifanc o Ddyffryn Nantlle o fod allan yn Awstralia adeg y tanau diweddar yn dod â’r holl beth yn fyw i ni adre.

Merch o Ddyffryn Nantlle yn profi tanau gwyllt Awstralia

Guto Jones

Sara Jones, sydd bellach yn byw yn Melbourne, yn trafod ei phrofiad o’r tanau yn Awstralia.

 

  • Stori chwaraeon yr wythnos, heb os, yw’r fideo uchafbwyntiau yma gan Begw – un o ffans mwyaf CPD Nantlle Vale. Mae’n agoriad llygad gweld sut mae’r bechgyn yn ymdopi i chwarae’r gêm mewn amodau mor wlyb!

CPD Nantlle Vale vs Brymbo, 11 Ionawr 2020

Begw Elain

Fy fideo wythnosol o gêm Nantlle Vale – gêm gartref yn Rownd 5 Cwpan FAW

 

  • Stori #holltibarn yr wythnos yw hon gan ohebydd Bro360, Lleu Bleddyn. Mae gorsaf drenau newydd ddechrau cael ei hadeiladu yn Bow Street, a dyw pawb yn lleol ddim yn hapus…

Ymateb cymysg i orsaf newydd Bow Street

Gohebydd Golwg360

Croeso a gwrthwynebiad i’r cynllun gwerth £8 miliwn

 

Cadw cyswllt a ffindio straeon

Mae 3 gwefan bellach yn fyw (BroAber360, DyffrynNantlle360 ac ogwen360) ac mae clonc360 wedi symud draw i’r system newydd. Wrth i ni symud ymlaen i’r cam nesa, sef ysgogi mwy ohonoch chi i greu eich straeon ar eich gwefan leol, ry’n ni wedi creugrwpiauu Facebook i drafod egin-syniadau am straeon ac ati.

I ymuno â’r sgwrs a’r clecs yn eich ardal chi, cysylltwch â Lowri ar lowri@golwg.com.