Wythnos #EinBro yn dangos bwrlwm Dyffryn Ogwen

Edrych nôl ar wythnos lansiad digidol Ogwen360.

Guto Jones
gan Guto Jones

Pobol leol yn creu ar eu gwasanaeth straeon lleol am y tro cyntaf oedd un o lwyddiannau mawr lansiad digidol Ogwen360.

Wythnos o ddathlu gwefan newydd ardal Dyffryn Ogwen oedd #EinBro, lle’r oedd pobol leol yn creu pob math o bethau amrywiol – gan gynnwys fideos, gig byw, erthyglau a lluniau.

Daeth uchafbwynt yr wythnos ar y dydd Gwener, wrth i saith fideo gael eu rhyddhau ar gyfryngau Ogwen360. Dangosodd y diwrnod yma’n glir pa mor brysur yw’r Dyffryn, wrth i amrywiaeth o dalentau cael eu harddangos – o wers goginio gyda Cypcêcs Lois, i greu caws gyda Cosyn Cymru, i set byw o gerddoriaeth gyda Dafydd Hedd!

Beth yw Ogwen360?

Gwefan ar gyfer y Dyffryn, gan bobol y Dyffryn yw Ogwen360.

Dyma fideo gan rhai o’r criw lleol, a ryddhawyd ar ddechrau’r wythnos:

 

Felly, fel y gwelwch yn y fideo, eich gwefan CHI yw hon. Pobol Dyffryn Ogwen sy’n creu’r cynnwys er mwyn rhoi sylw i’r pethau sydd yn bwysig yn eich milltir sgwâr.

Yr oll sydd angen ei wneud cyn cychwyn yw ymuno neu fewngofnodi, ac yna pwyso’r botwm Creu.

Ogwen360 ar y cyfryngau cymdeithasol

Gallwch ddilyn Ogwen360 ar gyfryngau cymdeithasol hefyd – Instagram, Facebook a Twitter. Yma, bydd newyddion diweddaraf y Dyffryn yn cael ei rannu.

Ar ddydd Iau #EinBro, rhyddhawyd her ‘Bingo Ogwen’. Her unigryw i’r ardal wedi ei chreu gan y bobol sy’n adnabod yr ardal orau – y bobol leol, wrth gwrs!

Dim ond pobol sydd wedi byw yn y Dyffryn all gylchu nifer fawr o sgwariau yn yr her yma. Sawl sgwâr alli di ei gylchu? Cer ar Instagram Dyffryn Ogwen er mwyn cadw’r llun, a rhanna’r canlyniad gyda ni!

Rhoi lle i bapur bro yn ystod yr argyfwng

Cawsom gyfle hefyd i roi sylw i Llais Ogwan yn ystod wythnos #EinBro. O achos cyfyngiadau’r coronafeirws, nid oes modd i’r papurau bro ddosbarthu copïau print i’r siopau ar hyn o bryd.

Ond, fel sawl cymdeithas a mudiad arall, mae criw Llais Ogwan wedi addasu dros dro ac wedi bod yn rhyddhau’r rhifynnau diweddar yn ddigidol ar Ogwen360.cymru.

Gall y papurau bro a’r gwefannau bro newydd yma helpu ei gilydd a chydweithio mewn sawl ffordd. Dyma un enghraifft o hynny. Cymerwch olwg ar rifyn mis Mehefin.

Diwrnod o weithgareddau digidol

Uchafbwynt yr wythnos oedd dydd Gwener, Mehefin 19 – diwrnod yn llawn fideos amrywiol, wedi’u creu gan bobol o’r fro.

Cafwyd gwers creu cerdyn cyfarch gan Karen Roberts, cân yr un gan Crawia a’r Welsh Whisperer, a hanes tirwedd yr ardal gan Ieuan Wyn, dim ond i enwi rhai.

Gallwch wylio pob fideo ar Ogwen360, ac ar ein tudalen Facebook. Erbyn hyn, mae’r fideos wedi cyrraedd bron i 20,000 o bobol – ffigwr sylweddol sy’n dangos bod straeon lleol gan bobol leol yn boblogaidd.

Dyma un fideo o’r diwrnod prysur gan Cosyn Cymru, sy’n dangos y broses o greu caws!

 

Beth hoffech chi ei weld ar eich gwefan leol chi? Cerwch ati i greu, a chysylltwch am fwy o wybodaeth!

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)