
‘Roedd hi’n wythnos brysur iawn i mi yn Arfon, wrth i Bro360 baratoi at bedwar sesiwn yn yr ardal. Un o’r sesiynau yma yw ‘sefydlu gwefan ardal Dyffryn Peris’ ar y 9fed o Fawrth (Glyntwrog, 7:30pm). Felly, cyn y sesiwn, bues i yn casglu barn sawl mudiad yn yr ardal, gan gynnwys criw Côr Meibion Dyffryn Peris, sydd i’w gweld yn y llun.

Dydd Mawrth, bues i yn cynnal sesiwn gydag ysgol Llanllyfni. Dysgodd y plant am wefan newydd ardal Dyffryn Nantlle, ac yna, y buon nhw’n brysur yn ymarfer eu sgiliau gohebu! Llwyddodd y criw i greu darn sydd yn sôn am yr ysgol yn cydweithio gyda Ballet Cymru. Cymrwch olwg ar y stori ar DyffrynNantlle360!

Cawsom ddiwrnod tîm yn Aberystwyth yng nghanol yr wythnos. Arad Goch oedd y lleoliad, wrth i ni gynllunio tuag at yr wythnosau nesaf. Cawsom hyfforddiant ar hawlfraint gan Dafydd Tudur o’r Llyfrgell Genedlaethol yn y prynhawn, a fydd y wybodaeth yma’n cael ei basio ’mlaen i olygyddion y gwefannau bro.

Un ffocws o’r wythnos oedd hyrwyddo noson ‘creu gyda’r cofis’ yng Nghaernarfon, ac efallai eich bod chi wedi gweld y poster yma mewn caffi neu siop. Mewn awr a hanner, byddwn yn cydweithio er mwyn creu gwefan newydd y dref, a da ni’n awyddus iawn i gynnwyd cymaint o bobol Caernarfon ac sydd yn bosib. Bydd y sesiwn yn mynd yn ei blaen nos Iau (5/3) am 5:30pm yng Nghaffi’r Galeri.

Un digwyddiad da ni’n edrych ymlaen ato yw Eisteddfod yr Urdd, ac mae’r gwaith paratoi wedi dechrau. Bydd Bro360 yn cydweithio ag ysgolion, er mwyn rhoi blas i chi o’r holl waith paratoi a’r cystadlu. Dyma lun o Eisteddfod Cylch Uwchradd Arfon er mwyn cloi’r wythnos.