Tips gweithio’n ddigidol o adre – ap Zoom

Tips ar ddefnyddio ap Zoom i gadw cysylltiad gyda’n cyd-weithwyr

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Gyda mwy ohonom ni’n dechrau gweithio o gartref yn ystod y cyfnod rhyfedd ‘ma, mae’n bwysig ei’n bod yn gallu cadw cysylltiad gyda’n cyd-weithwyr!

Mae tîm Bro360 wedi bod yn arbrofi gyda Zoom er mwyn gwneud hyn, a da ni’n gweld ein gilydd yn fwy nag erioed!

Dyma yw’r oll sydd angen ei wneud i ddefnyddio Zoom. Pawb yn y tîm i wneud hyn:

  1.       Ymweld â gwefan zoom.us
  2.       Dewis yr opsiwn ‘sign up’, a rhoi eich e-bost gwaith yn y blwch
  3.       Cadarnhau eich e-bost, a llenwi’r blychau priodol
  4.       Yna, lawrlwytho Zoom fel ap ar eich cyfrifiadur neu ffôn

I gychwyn cyfarfod ar ôl creu cyfrif:

  1.       Pob un ohonoch i agor yr ap a mewngofnodi
  2.       Un ohonoch i ddewis ‘New meeting’
  3.       Dewis ‘invite’, a  gwahodd eich cydweithwyr ar e-bost!

Mae’n syniad da anfon neges fach i gadarnhau faint o’r gloch fydd y sgwrs – fel bod pawb wedi mewngofnodi’n barod.

Mwynhewch y cyd-drafod!