Tasg #5 – rhoi sylw fach ar stori

Cyfrannwch sylw at stori ar eich gwefan fro heddiw!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Un o’r pethau gorau am y gwefannau straeon lleol yw bod hawl gan unrhyw un ohonom gyfrannu atynt! Dim gwasanaethau canolog, ‘o bell’ yw’r rhain…

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mynd i’ch gwefan fro a phwyso’r botwm ‘Ymuno’ i greu cyfrif.

Wedyn, gallwch chi:

  • adael sylw ar unrhyw stori
  • creu stori ar eich gwefan leol chi

Felly beth am adael sylw fach ar stori heddiw?

Dyma ddwy stori dda sy’n gofyn am fewnbwn gan bawb yn lleol. Allwch chi ychwanegu manylion defnyddiol am fusnes neu gwmni sy’n cynnig gwasanaeth arbennig yn ystod cyfnod y coronafeirws?