Tasg #4 – rhannu hoff straeon ar gyfryngau cymdeithasol

Y ffordd orau o hyrwyddo straeon lleol yw defnyddio ein cyfrifon Facebook a Twitter ein hunain

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Does dim byd gwaeth na chreu stori *wych* a bod neb yn ei gweld!

I roi hwb i bawb sy’n cyfranogi stori, fideo neu oriel i dy wefan fro, beth am eu helpu i’w hyrwyddo?

Mae stori sy’n cael ei rhannu ar gyfrifon Facebook a Twitter personol yn llawer mwy tebygol o gael eu gweld a’u darllen gan bobol. A ti, fel un o’r bobol leol, yw’r person gorau i rannu straeon sy’n ymddangos ar dy wefan fro.

Cofia dagio pobol/tudalennau perthnasol yn y post hefyd, neu ei rannu mewn grwpiau diddordeb arbennig neu ar ebost at bobol allai fod â diddordeb.

Rhannu, rhannu, rhannu!