Tair sesiwn amrywiol i ddangos potensial technoleg a phobol ardal Clonc360

Cwis am y gyfres Nyth Cacwn, sgwrs banel am sut i gynnal steddfod ddigidol, a thrafodaeth i ddychmygu dyfodol cymdeithas wedi’r Covid

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Yr wythnos hon, bydd tair sesiwn wahanol yn cael eu cynnal ar dudalen Facebook Clonc360.

Yn dilyn cynnal lansiadau digidol y mis yma i dair o’r gwefannau newydd sydd wedi’u creu dan adain Bro360 (DyffrynNantlle360, BroAber360 ac Ogwen360), tro’r wefan fro wreiddiol yw cael y sylw yr wythnos hon.

Cafodd Clonc360 ei sefydlu 6 mlynedd yn ôl fel partneriaeth rhwng Golwg a phapur bro Clonc, i weld a oedd hi’n bosib cynnal gwefan straeon lleol. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda straeon difyr yn cael eu creu a’u cyhoeddi gan bobol leol bob wythnos.

Mae’r wythnos hon yn gyfle i ddangos beth arall mae Clonc360 yn gallu ei wneud. Mae’n fwy na gwefan i rannu straeon yn unig – mae’n gyfle i ddod â phobol y filltir sgwâr ynghyd i drafod, rhannu profiadau a joio!

Er nad oes modd dod ynghyd dan yr un to i gynnal trafodaethau, clywed sgwrs banel neu gymryd rhan mewn cwis, mae’r cyfnod yma wedi dangos beth sy’n bosib gyda thechnoleg. Gan ddefnyddio’r arfau digidol sy’n cael eu cynnig gan Zoom a Facebook, bydd Clonc360 yn dod â thair sesiwn ddifyr i’ch soffa:

Prosiect Fory

Bydd y sesiwn gyntaf yn drafodaeth agored ar Zoom. Dyma’ch gwahodd i ymuno â’ch cymdogion o gwmpas ardal Llanbed i feddwl pa fath o gymdeithas yr hoffen ni ei weld ar ôl i’r argyfwng basio. Ebostiwch lowrijones@golwg.com i gael cod i’r sesiwn o flaen llaw.

Steddfota o’r soffa

Nos Iau bydd panel o steddfotwyr yn cael eu holi am sut brofiad oedd cynnal steddfod ddigidol cynta’r byd (ni’n credu!) Mae’n gyfle i rannu ‘bach o ysbrydoliaeth a chyngor gyda steddfodau a digwyddiadau lleol eraill am yr hyn sy’n bosib. Tiwniwch mewn i Facebook Clonc360 i wrando, a chyfrannwch eich cwestiynau yn y sylwadau.

Cwis Nyth Cacwn

Nefi bananas! Cwis i holl ffans y gyfres deledu Nyth Cacwn sy mlaen nos Wener. Gallwch gymryd rhan jest wrth wylio Cennydd a Mared yn holi’r cwestiynau ar Facebook Live. Os hoffech chi grynhoi tîm, crëwch sgwrs gyda’ch ffrindiau yn y ffordd arferol (Messenger, Whatsapp neu rywbeth tebyg) ac ewch ati i ateb y cwestiynau heb symud o’r soffa. Does dim gwobr i’r enillydd – dim ond clod a bri!