Syniad i Sul y Blodau

? Beth am rannu llun o’ch hoff flodyn gyda neges fach, i gofio am anwyliaid y penwythnos hwn? ?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Os ydych chi’n methu mynd i roi blodau yn y fynwent y penwythnos yma ond yn dymuno cofio am rywun annwyl, beth am rannu llun o’ch hoff flodyn gyda neges fach i gofio?

Cofiwch dagio’ch gwefan fro yn eich neges er mwyn llenwi’r ffrwd â blodau hardd, ac i ddangos cymaint ohonom sy’n cofio am ein hanwyliaid yn y cyfnod anodd yma.

Pobol gogledd Ceredigion – tagiwch BroAber360
Pobol ardal Llanbed – Clonc360
Pobol Dyffryn Peris a Gwyrfai – BroWyddfa360
Pobol dre’ – Caernarfon360
Pobol Dyffryn Ogwen – Ogwen360
Pobol Dyffryn Nantlle – DyffrynNantlle360